Sgipio mordwyaeth
 

Dim Smygu Cymru

Page banner - smoking
Dim Smygu Cymru
 
Help cyfeillar, am ddim i roi'r gorau iddi
 
Pan fyddwch yn penderfynu rhoi'r gorau i smygu does dim rhaid i chi wneud ar eich pen eich hun. Mae Dim Smygu Cumru yn cynnig cefnogaeth leol, am ddim gany GIG, sydd wir yn gweithio.
 
Rydych chi pedwar gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i smygu gan ddefnyddio
Dim Smygu Cymru na phetaech yn ceisio ar eich pen eich hun.
 
Gallwch weithio gyda chynghorydd hyfforddedig a fydd yn gallu dweud wrthych am gynhyrchion amnewid nicotin a chymhorthion eraill fel Bupropion (Zyban ®) a Varenicline (Champix ®). Byddwch hefyd yn gallu defnyddio monitor carbon monocsid i fesur y cwymp mewn lefelau carbon monocsid niweidiol yn eich corff.
 
Bydd sesiynau grŵp yn dechrau ychydig wythnosau cyn i chi roi'r gorau iddi. Mae eich sesiynau cyntaf yn helpu i chi gynllunio a pharatoi i roi'r gorau iddi.
 
Wedi i chi roi'r gorau iddi, bydd eich grŵp yn cyfarfod bob wythnos i gynnig cyngor a symbyliad. Mae'n well gan rai pobl siarad un-i-un. Mewn llawer o ardaloedd gallwch drefnu apwyntiad gyda chynghorydd er mwyn cael cefnogaeth unigol.

*Rho'r Gorau i Smygu Dechrau Byw

Pan fyddwch yn rhoi'r gorau i smygu ni fyddwch yn aberthu unrhyw beth, byddwch yn cymryd rheolaeth ar eich bywyd. Gall smygu niweidio pob rhan o'ch corff ynghyd â chynyddu'r risg o ganser a chlefyd y galon. Os oes gennych blant, bydd rhoi'r gorau i smygu yn gwella eich iechyd chi yn ogystal â helpu i'w hamddiffyn nhw hefyd.

Rhadffôn 0800 085 2219

 


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 18/01/2012