Rôl y deietegydd Mae deietegwyr yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi a gofalu am bobl a gafodd eu diagnosio â chanser. Ein nod yw gwneud y gorau o statws maethol ac ansawdd bywyd cleifion y gwelir eu bod â diffyg maeth, neu mewn perygl o fod â diffyg maeth, oherwydd eu salwch neu’r driniaeth maent yn ei chael. Rydym yn gwneud hyn drwy: - Asesu gofynion maethol, gan ystyried:
- hanes meddygol
- taldra a phwysau
- adolygu canlyniadau profion gwaed
- adolygu’r deiet
- cyfrifo gofynion deietegol.
- Rhoi cyngor ar gymorth maethol priodol.
- Cysylltu â phob tîm sy’n ymwneud â gofal i gleifion
- Monitro cynnydd ac anghenion sy’n newid drwy asesu newid o ran pwysau ac adolygu’r deiet
- Trefnu cymorth maethol yn y gymuned drwy weithio gyda meddygon teulu i ragnodi cymorth maethol cyfredol
Rydym hefyd yn darparu cyngor a chymorth deietegol ar gyfer deietau therapiwtig eraill megis diabetes, cadw pwysau, ffibr uchel a gweddill isel. Yr adran Mae’r adran yn cynnwys: - Prif ddeietegydd clinigol Macmillan
- 2 ddeietegydd oncoleg arbenigol Macmillan
- Cynorthwyydd dietetig.
Rydym yn darparu gwasanaeth i gleifion mewnol, cleifion allanol a’r rhai sy’n mynychu radiotherapi. Mae’r adran ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (08:30 - 16:30). Gwasanaeth i gleifion mewnol Gwneir cyfeiriadau i’r adran gan staff meddygol neu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol (nyrsys, ffisiotherapyddion, therapydd lleferydd ac iaith, therapydd galwedigaethol neu radiograffydd). Cesglir cyfeiriadau o ddydd Llun i ddydd Gwener a chânt eu blaenoriaethu yn unol â safonau’r adran. Caiff sgrinio ei ail-wneud yn wythnosol yn ystod y cyfnod derbyn. Gwasanaeth i gleifion allanol Rhoddir blaenoriaeth i gleifion a ddiagnoswyd â chanser y pen a’r gwddf, neu ganser gastroberfeddol uwch. Mae deietegydd ar gael ar gyfer yr holl gleifion a ddiagnoswyd â chanser gastroberfeddol uwch wrth iddynt fynychu apwyntiad clinic eu hymgynghorydd. Yn ogystal â hyn, darperir gwasanaeth yn wythnosol i gleifion a ddiagnoswyd â chanser y pen a’r gwddf wrth iddynt dderbyn 6 wythnos o radiotherapi. Cafodd gwasanaeth newydd ei gyflwyno ar gyfer cleifion sy’n cael radiotherapi. Mae hyn yn darparu mynediad at wasanaeth deietetig wythnosol os oes angen un. Ar gyfer pob claf allanol arall, mae’r adran yn darparu clinig pob pythefnos. Gwneir cyfeiriadau ysgrifenedig gan staff nyrsio neu feddygol o fewn y lleoliad claf allanol a chaiff cleifion eu blaenoriaethu yn unol â safonau adrannol. Manylion cyswllt Cewch chi gysylltu â ni ar 029 2061 5888 est 2214 neu cewch chi anfon neges e-bost I gael taflenni cyngor gwybodaeth i gleifion tudalen taflenni deietegol |