Sgipio mordwyaeth
 

Canolfan Gwybodaeth i Gleifion

Page banner - Pharmacy

Canolfan Gwybodaeth i Gleifion

Mae’r Ganolfan Gwybodaeth i Gleifion ar agor 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos ac mae’n darparu gwybodaeth am:

  • mathau o ganser a thriniaeth 
  • grwpiau cymorth a gwasanaethau lleol
  • cymorth emosiynol ac ymarferol
  • bywyd ar ôl canser
  • profedigaeth
  • cymorth i ofalwyr
  • hybu iechyd
Mae’r ddelwedd isod yn ddelwedd ‘rhithwir’ o’n ‘Canolfan Gwybodaeth I Gleifion’.  Er mwyn archwilio hyn cliciwch eich llygoden yn unrhyw le ar y ddelwedd i agor y ffeil.  Yna dylech fod yn gallu defnyddio eich llygoden i glicio ar y ddelwedd a’i lusgo i unrhyw ymgynghoriad (byddwch angen dala allwedd y llygoden i lawr).  Mae’r symbolau minws a phlws ar y ddelwedd yn caniatáu i chi wneud y ddelwedd yn fwy ac yn llai.  Mae’r sgwâr bach i’r dde o’r plws a minws yn agor ac yn cau golwg ar sgrin lawn.  Bydd unrhyw bwyntiau o ddiddordeb yn cael ei ddangos mewn golygfeydd bach ar ochor dde'r ddelwedd.  Drwy glicio ar unrhyw un o’r rhain bydd y ddelwedd yn chwyddo i’r fan ar le. 
 

Mae rhywfaint o wybodaeth ar gael ar DVD neu fideo, CD neu gaset, mewn Braille, yn Gymraeg a rhai ieithoedd lleiafrifoedd ethnig.

Ceir mynediad anghyfyngedig at y rhyngrwyd ac at linellau cymorth.

Canolfan Gwybodaeth i Gleifion

Lleolir y Ganolfan Gwybodaeth i Gleifion ger y brif fynedfa. Mae cadeiriau yno lle cewch chi eistedd ac ymlacio. Mae croeso i chi dreulio amser yn darllen trwy’r wybodaeth neu cewch chi fynd â hi i ffwrdd gyda chi.

Mae ein bagiau gwybodaeth i gleifion hefyd ar gael o’r man yma.

Os oes angen unrhyw gymorth neu wybodaeth arnoch, mae ein Rheolwr Gwybodaeth I Gleifion ‘Toni Muller’ ar gael o Ddydd Llun I Ddydd Gwener o 8.30 y bore i 5 yn y prynhawn.  Mae’r swyddfa wedi ei lleoli ger y ganolfan wybodaeth.

Ystyriwch hefyd

 

yn ol i’r brug | Tudalen o werth? 

 


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 11/07/2012