Plas Menai Surgery - Tudalen Hafan Plas Menai Surgery - Tudalen Hafan
.... darparir y wefan gan HOWIS 
 

Y Gweinidog Iechyd yn cynnig perthynas newydd rhwng y Llywodraeth, y GIG a’r cyhoedd



Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi lansio trafodaeth ynghylch sut y gall y gwasanaeth iechyd, y cyhoedd a’r Llywodraeth yng Nghymru gydweithio’n well i wella iechyd a gwasanaethau iechyd.
 

Y nod yw ei gwneud yn haws i bobl gyfathrebu â’r GIG a’r Llywodraeth a chael yr wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Roedd ymgynghoriad ar ‘gompact’ i gysylltu Llywodraeth Cymru, y GIG a’r cyhoedd yn ymrwymiad yn Law yn Llaw at Iechyd, sef y cynllun pum mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn i bobl roi eu barn er mwyn helpu i gyflymu gwelliannau. Sut mae gwella gwasanaethau? Sut all y GIG wella’r ffordd y mae’n gweithio gyda chymunedau a chynnig cyngor i unigolion? A ellir rhoi mwy o help i bobl reoli eu hiechyd eu hunain a’u problemau iechyd eu hunain?

Mae hefyd yn gofyn a all pobl wneud mwy i helpu eu hunain – rhoi’r gorau i smygu neu ddechrau bwyta’n iachach er enghraifft.

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae ein strategaeth bum mlynedd ar gyfer y GIG, Law yn Llaw at Iechyd, yn nodi gweledigaeth o greu Cymru sydd ag iechyd cystal ag unrhyw le arall yn y byd.

“Ond ni all y GIG wneud hyn ar ei ben ei hun – dim ond drwy bartneriaeth rhwng y gwasanaeth iechyd a’r cyhoedd y gellir cyflawni hyn.

“Wrth gwrs, mae’r Llywodraeth, y GIG a’r cyhoedd eisoes yn cyfnewid syniadau, gwybodaeth a barn mewn sawl modd, ond credaf y gellir gwneud mwy a’i wneud yn well.

“Yr ymgynghoriad hwn yw dechrau trafodaeth newydd am beth yw cyfrifoldebau’r Llywodraeth, y GIG a phobl ym mhob cwr o Gymru.

“Mae'n trafod sut y gall pobl chwarae rôl fwy i reoli eu hiechyd a gwella gwasanaethau iechyd yng Nghymru, a sut y gall y llywodraeth a’r GIG helpu hynny i ddigwydd.

“Er mwyn sicrhau gwasanaeth iechyd sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy ac yn diwallu anghenion pawb gymaint â phosibl, rydym am glywed beth mae pobl yn ei ddisgwyl gan y GIG a sut, yn eu barn nhw, y gall y GIG weithio gyda nhw i ddiogelu a gwella iechyd.”

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 24 Hydref 2012.

 

Ffynhonnell: Iechyd yng Nghymru