![]() |
![]() |
||
Crynodeb Ymgynghoriad NISCHR CRC ar Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) a Cynllun Gweithrediad Cynnwys Pobl wedi ei gyhoeddiDydd Mercher, 16 Tachwedd 2011Ers mis Gorffennaf 2011, mae’r Canolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR CRC) wedi bod yn cynnal ymgynghoriad i nodi sut y gallwn sicrhau PPI effeithiol mewn ymchwil, o ran ansawdd uchel, yn berthnasol ac yn canolbwyntio ar bobl, o fewn yr isadeiledd ymchwil yng Nghymru.
Cafodd grŵp gorchwyl a gorffen ei sefydlu i lywio'r ymgynghoriad, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr lleyg, staff NISCHR CRC ac ymchwilwyr. Trwy’r ymgynghoriad, wnaethom gwahodd mewnbwn gan ystod eang o bobl sy'n rhannu ein diddordeb mewn cyfraniad gweithredol gan pobl mewn ymchwil, gan gynnwys ymchwilwyr, defnyddwyr gwasanaeth, ac arweinwyr PPI. Roeddwn yn ymgynghori ar yr amcanion PPI a ddarperir ar hyn o bryd gan NISCHR CRC trwy'r Tîm Cynnwys Pobl, sy'n cynnwys gweithio i gynnwys cymryd rhan weithredol yn NISCHR CRC a'r isadeiledd ymchwil clinigol NISCHR. Ymatebodd 86 o bobl (cyfradd ymateb o 32%) i'r arolwg ymgynghoriad ar-lein a chafodd barn ei gasglu hefyd gan rai unigolion drwy gyfrwng grŵp ffocws a chyfweliadau dros y ffôn. Yn gyffredinol, roedd ymatebion i'r trefniadau presennol yn gadarnhaol iawn a chawsom lawer o awgrymiadau defnyddiol ar sut y gall NISCHR CRC gwella'r gwaith o gyflwyno agenda PPI ar draws yr isadeiledd ymchwil clinigol. Gwnaeth grŵp gorchwyl a gorffen yr ymgynghoriad dehongli’r ymatebion i’r ymgynghoriad a cynhyrchu adroddiad cryno i adlewyrchu ehangder yr ymatebion a dderbyniwyd a'r ystod o themāu a nodwyd: Mae cyfarwyddwyr NISCHR CRC wedi adolygu a cymeradwyo Cynllun Gweithredu Cynnwys Pobl (seiliedig ar ymatebion i'r ymgynghoriad) sy'n mynd â ni i 2015 ac yn amlinellu'r parhad a gwelliant gwasanaeth Cynnwys Pobl: Diolch yn fawr i bob unigolyn a gyfrannodd at yr ymgynghoriad. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyflwyno Cynllun Gweithredu Cynnwys Pobl. Ffynhonnell: National Institute for Social Care and Health Research Clinical Research Centre (NISCHR CRC) (safle we yn Saesneg) |
|