![]() |
Brechlyn Feirws Papiloma Dynol (HPV)Dydd Llun, 8 Medi 2008Lansio pigiad rhag canser ceg y groth ym mis Medi
Fis Hydref diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart, y byddai pob merch 12 a 13 mlwydd oed yng Nghymru yn cael y pigiad rhag y feirws sy’n achosi’r rhan fwyaf o fathau o ganser ceg y groth. Bydd y brechlyn rhag y Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn cael ei ychwanegu at y rhaglen imiwneiddio gyffredinol o’r mis hwn ymlaen. Yn ogystal â hyn, bydd ymgyrch frechu ôl weithredol yn cael ei chynnal dros y ddwy flynedd nesaf a fydd yn dechrau yn ystod hydref 2009 ar gyfer pob merch hyd at 18 mlwydd oed. Datganiad i’r wasg y Gweinidog ynglŷn ag achlysur lansio'r rhaglen Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi lansio gwefan sy’n rhoi manylion y fenter.Mae taflenni a thaflenni ffeithiau ynglŷn â HPV a’r rhaglen frechu ar gael o’r ffynhonnell hon. Ffynhonnell: All Wales Sexual Health Network |
|