![]() |
![]() |
Croeso i wefan Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol CymruSefydlwyd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) ar 1 Ebrill 2010 ac fe’i lletyir gan Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf. Mae’n gyfrifol am gydgynllunio Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol ar ran Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru. Yn 2010 sefydlodd y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) er mwyn sicrhau bod gan boblogaeth Cymru’n fynediad teg a chyfiawn i amrediad llawn y gwasanaethau arbenigol. Roedd hyn yn dilyn ymgynghoriad ar wasanaethau arbenigol i Gymru yn 2009, oedd wedi argymell gwelliannau ar sut y mae’r GIG yn cynllunio ac yn sicrhau gwasanaethau arbenigol. Wrth sefydlu PGIAC i weithio ar eu rhan, roedd y saith Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yn cydnabod mai’r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o gynllunio’r gwasanaethau hyn oedd gweithio â’i gilydd er mwyn lleihau dyblygu a sicrhau cysondeb. Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth i gleifion, y cyhoedd a staff. Os bydd unrhyw sylwadau gennych am y wefan neu awgrymiadau ar sut y gallwn ei gwella, a wnewch chi ddweud wrthym drwy gwblhau Ffurflen Adborth.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 07/03/2013 |
|