Logo 1000 Lives Plus (archived)   1000 Lives Plus (archived) banner
Mae'r wefan hon wedi cael ei huwchraddio. I gael mynediad i'r safle newydd, ewch i http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/
Osgoi'r Gwe-lywio
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English

Mae staff y GIG yn achub bywydau bob dydd – bydd 1000 o Fywydau a Mwy yn helpu i achub rhagor

MeddygMae 1000 o Fywydau a Mwy yn rhaglen genedlaethol sy’n anelu at wella ansawdd gofal cleifion a lleihau niwed y gellir ei osgoi ledled y GIG yng Nghymru.

Mae’n cyd-redeg ag un ar ddeg o raglenni cenedlaethol eraill mewn fframwaith pum mlynedd i wneud newidiadau a fydd yn trawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
 
Mae pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru yn rhan o 1000 o Fywydau a Mwy, sy’n cyflwyno ffyrdd newydd o weithio i wella gofal drwy leihau niwed, gwastraff ac amrywiadau. Mae hefyd yn ymrwymedig i gyflymu’r newid er mwyn sicrhau bod arferion da yn lledaenu o’r naill ward i’r llall, o’r naill feddygfa i’r llall ac o’r naill sefydliad i’r llall.
 
Ar hyn o bryd mae 1000 o Fywydau a Mwy yn gweithredu’r rhaglen mewn pedwar ar ddeg o feysydd. Maent yn cynnwys: gwella gwasanaethau strôc, lleihau cwympiadau yn y gymuned, adferiad cyflymach ar ôl llawdriniaeth a gwell triniaeth i’r rhai sy’n dioddef o anhwylderau iechyd meddwl.
 
Mae’r rhaglen yn cydnabod bod staff sydd ar y rheng flaen mewn sefyllfa dda i ddarparu gofal o’r safon y mae pob claf ei angen, ym mhob man, bob amser. “Gwyddom fod staff GIG Cymru’n ymrwymedig i wella diogelwch ac ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu. Mae 1000 o Fywydau a Mwy yn rhoi cyfle i’r gwaith hwnnw barhau”, meddai Dr Alan Willson, cyfarwyddwr y rhaglen.
 
 
Mae 1000 o Fywydau a Mwy yn adeiladu ar waith yr Ymgyrch 1000 o Fywydau, a gynhaliwyd rhwng Ebrill 2008 ac Ebrill 2010. Am fwy o wybodaeth am yr Ymgyrch, darllenwch adroddiad 'Dwy flynedd i wneud gwahaniaeth i Ofal Iechyd yng Nghymru' (PDF).

Newyddion Diweddaraf

Ffotograffau’n rhoi darlun o GIG Cymru o safbwynt y claf
9 Rhagfyr 2011
Cymerodd staff y GIG o bob cwr o Gymru ran mewn ymgyrch ffotograffau ryngwladol o’r enw ‘Diwrnod ym mywyd claf’ ‘yn ddiweddar.
Gwella Gofal – Lansio Gwobrau GIG Cymru 2012
2 Tachwedd 2011
Mae’r gwaith wedi dechrau i geisio dod o hyd i dimau gofal iechyd arloesol yn GIG Cymru i gystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru 2012 er mwyn cael cydnabyddiaeth i’w gwaith.
GIG Cymru yn dysgu oddi wrth NASA
13 Medi 2011
Mae e-Gylchlythyr 1000 o Fywydau a Mwy ar ei newydd wedd ac mae’n cynnwys y newyddion diweddaraf am y rhaglen gwella ansawdd genedlaethol.

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 09/12/2011