Sgrinio Coluddyn Cymru
"Peidiwch â marw o gywilydd" ...
Canser y coluddyn yw’r canser mwyaf cyffredin ond dau yng Nghymru.
Mae 1,000 o bobl yn marw ohono bob blwyddyn yng Nghymru.
Fodd bynnag, os caiff ei ganfod yn gynnar, mae hefyd yn un o’r mathau o ganser sydd hawsaf i’w drin.
Os ydych rhwng 60 a 69 oed, cewch becyn sgrinio’r coluddion drwy’r post dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae sgrinio’r coluddion yn rheolaidd yn lleihau’r risg o farw o ganser y coluddyn 15%.
Mae sgrinio’n canfod canser y coluddyn yn gynnar - yn aml pan nad oes symptomau - ond ar yr adeg pan fo triniaeth yn fwyaf effeithiol.
Mae’r rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru yn dechrau gyda phobl rhwng 60 a 69 oed.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Llinell Gymorth am Ddim ar 0800 294 3370.
Darperir y rhaglen sgrinio gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, ar y cyd â phob Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
27/10/2008