Education Programmes for Patients (EPP Cymru) logo   Education Programmes for Patients (EPP Cymru) banner
 

EPP Cymru

Helo a Chroeso i'n gwefan.

Mae EPP Cymru yn dosparthu ystod o rhaglenni hunan reoli i bobol sy'n byw a clefydau cronig, neu ar gyfer y rhai sy'n gofalu am rhywyn sy'n byw gyda cyflwr iechyd tymor hir.

Yn wreiddiol roedd y rhaglen hunan reoli clefydau cronig ei ddatblygu yn yr Unol Daleithiau America yn y 1970au ac yn awr yn cael ei redeg yn y Deyrnas Unedig a llawer o wledydd eraill ar draws y byd.

Ar hyn o bryd mae EPP Cymru yn rhedeg:

  • Y rhaglen hunan- rheoli clefydau cronig wreddiol I bobl dros 18 sy'n byw a cyflwr iechyd tymor hir
  • Rhaglen ar gyfer gofalwyr I ofalu am eu hunan iechyd a lles  

 

 

Byw'ch Bywyd

Amcan yr EPP Cymru yw'ch gwneud yn arbenigwr mewn byw'ch bywyd i'r eithaf gyda'ch cyflwr, nid eich gwneud yn arbenigwr yn y cyflwr.

Mae nifer o'r bobl sydd wedi mynychu un o rhaglenni EPP Cymru yn mynd yn eu blaenau fel tiwtoriaid gwirfoddol i gynnal y rhaglen yn eu hardaloedd.

Mae gan yr holl bobl sy'n gysylltiedig â'r EPP Cymru yng Nghymru, y staff a'r tiwtoriaid gwirfoddol, brofiad personol o naill ai byw gyda salwch tymor hir neu o ofalu am rywun â salwch tymor hir.

 

 Tiwtoriaid Gwirfoddol sydd newydd gwblhau eu hyfforddiant.

Tiwtoriaid Gwirfoddol sydd newydd gwblhau eu hyfforddiant. 

 

Rhai ffeithiau a ffigurau am yr EPP yng Nghymru:

Cychwynnwyd EPP Cymru yng Nghymru yn 2002 gyda phrosiect peilot o dan ofal dau Fwrdd Iechyd Lleol, Gwynedd ac Abertawe.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn llwyr gefnogi'r rhaglen a chyhoeddodd y byddai'n ei rhoi ar waith ledled y wlad erbyn 2008. Hyd yma:

  • mae 744 o gyrsiau EPP Cymru wedi'u cynnal yng Nghymru
  • mae 6107 o bobl wedi cwblhau un o gyrsiau EPP Cymru 
  • mae 130 o diwtoriaid gwirfoddol wedi'u hyfforddi
  • mae 15 o Cydlynwyr/Hyfforddwyr lleol yr EPP Cymru wedi'u cyflogi i helpu'r gwirfoddolwyr ac i drefnu a rheoli'r cyrsiau lleol

Newyddion Diweddaraf

Gweinidog yn hybu ymwybyddiaeth o anabledd dysgu
19 Mehefin 2013
Mae prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i hybu ymwybyddiaeth o anabledd dysgu a gwybodaeth hygyrch wedi'i ddathlu mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd.
 
Rhoi’r golau gwyrdd i ddyluniad terfynol system gyson o labelu maethynnau bwyd
19 Mehefin 2013
Bydd pobl bellach yn ei chael yn haws gwneud dewisiadau mwy iach am y bwyd y maent yn ei fwyta a hynny oherwydd label cyson newydd ar flaen pecynnau yn dangos y maethynnau sydd mewn bwyd. 
 
Penodi panel diogelu
19 Mehefin 2013
Mae pedwar arbenigwr wedi'u penodi i banel cynghori ym maes diogelu i ystyried sut gall Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wella'r trefniadau ar gyfer diogelu ac amddiffyn oedolion a phlant yng Nghymru.
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 16/06/2011