Sgipio mordwyaeth
   
Mae'r wefan hon wedi cael ei archifo. Mae Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru nawr yn rhan o Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Ewch i wefan newydd Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda am wybodaeth gyfredol ar www.billhyweldda.cymru.nhs.uk
 
 

Croeso i...

Adolygiad o Wasanaethau Aciwt Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ymateb yr Ymddiriedolaeth i'r Ymgynghoriad

Cwestiynau Cyffredin a Ofynnwyd
Argymhellion Y Bwrdd Prosiect

Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru

Mae Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru yn darparu gwasanaeth gofal iechyd aciwt a chymunedol integredig. Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth yn darparu gwasanaethau aciwt, gyda chefnogaeth gan ysbytai cymunedol yn Aberaeron, Aberteifi a Thregaron.

Mae'r brif ardal a gaiff ei gwasanaethu gan wasanaethau ysbyty a chymunedol yr Ymddiriedolaeth yn debyg iawn i ffiniau presennol Cyngor Sir Ceredigion, sy'n cwmpasu poblogaeth o tua 70,000. Mae rhai ardaloedd o dde Gwynedd, gogledd Powys a gogledd Sir Benfro hefyd yn dod o fewn ardal dalgylch yr Ymddiriedolaeth gan godi cyfanswm amcangyfrifedig y boblogaeth a gaiff ei gwasanaethu gan y gwasanaeth aciwt i 120,000. Hefyd, mae nifer fawr o fyfyrwyr yn yr ardal a chaiff twristiaeth effaith fawr yn ystod misoedd yr haf.

Map o ddalgylch Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru

Os cewch unrhyw broblemau gyda'r wefan hon, cysylltwch â
sharon.taylor@ceredigion-tr.wales.nhs.uk


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 09/07/2007