![]() |
![]() |
| .... wdarparir y wefan gan HOWIS |
|
Croeso[ Y dudalen hon yn Saesneg/This page in English ] Mae Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau gofal iechyd llym a chymunedol. Mae'r Ymddiriedolaeth, sy'n gwasanaethu poblogaeth o 170,000 ar draws Sir Gaerfyrddin ac mewn siroedd cyfagos, yn darparu gwasanaethau ysbyty dwys a brys trwy ddau brif ysbyty - Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli. Lleolir gwelyau ailsefyldu, cefnogaeth a gofal parhaus ar gyfer y claf mewnol mewn pedwar ysbyty llai yn Ysbyty Dyffryn Aman (Glanaman), Ysbyty Llanymddyfri ac Ysbyty Mynydd Mawr (Tymbl Uchaf). Mae Canolfan Elizabeth Williams, Llanelli a Chlinig Pond Street, Caerfyrddin, yn ganolbwynt i amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n seiliedig yn y gymuned. Yn ogystal, mae'r Ymddiriedolaeth yn gofalu am lawer o gleifion yn eu cartrefi eu hunain trwy ei gwasanaethau nyrsio a therapi cymunedol. Gyda mwy na 3,200 o gyflogedigion, gan gynnwys staff meddygol, nyrsio, proffesiynol, gwyddonol, technegol, cynorthwyol a gweinyddol, mae Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin yn un o gyflogwyr mwyaf yr ardal. Beth yw ein swyddogaethDarparu gofal iechyd effeithiol ar gyfer y bobl leol:- Mae Pobl yn bwysig - gwerthfawrogwn bob person, boed yn glaf, yn gleient, yn weithiwr, yn gynhaliwr neu'n berthynas. Mae Perfformiad yn bwysig - ymdrechu am ragoriaeth ym mhob peth a wnawn, bod yn arloesol, a gweithio gyda'r adnoddau sydd ar gael. Mae Egwyddorion yn bwysig - gonestrwydd, didwylledd, parch at eraill a datblygu dealltwriaeth a rennir yw ein nodau gwarant. Mae Partneriaethau yn bwysig - mae gweithio'n dda gydag eraill, gweithio fel tîm, a chydnabod ein cyd-ddibyniaeth oll yn hanfodol.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 21/05/2008 |
|