Croeso i safle rhyngrwyd y Cynulliad ar gyfer pobl sy'n gweithio ar ddatblygu darpariaeth gwasanaethau iaith Gymraeg mewn gofal iechyd yng Nghymru. Mae Uned yr iaith Gymraeg yn rhan unigryw o fewn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'n nod yw gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg drwy godi ymwybyddiaeth, statws a phwysigrwydd materion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg o fewn gofal iechyd yng Nghymru.
Mae’r Uned yn hyrwyddo ac yn annog Ymarfer Da gan Fyrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIG a'r colegau trwy rôl ganolog o drefnu grwpiau strategol a rhyngweithiol yn genedlaethol.
Porwch ein safle ac fe ddewch o hyd i amrywiaeth o wybodaeth, o fanylion am ein Gwobrau Ymarfer Da, Cynhadledd Flynyddol, gwybodaeth a dogfennau defnyddiol er mwyn cynorthwyo gweithwyr a myfyrwyr gofal iechyd i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg o ddydd i ddydd, a llawer mwy.
Fe fyddwn yn falch o dderbyn copïau o'ch Cynlluniau Iaith Gymraeg ac Adroddiadau Blynyddol ac unrhyw ddogfennau yr hoffech eu rhannu. Fe fyddant wedyn ar gael i gyd-weithwyr eraill i gynorthwyo datblygu darpariaeth iaith Gymraeg ar hyd a lled Cymru.
Am fwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog mewn gofal iechyd yna peidiwch oedi rhag cysylltu â ni:
Uned Polisi Iaith Gymraeg , Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 4ydd Llawr, Parc Cathays 2, Caerdydd, CF10 3NQ
Mae'r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, wedi lansio ymgynghoriad ar sut i gryfhau gwasanaethau Cymraeg er mwyn bodloni anghenion gofal siaradwyr Cymraeg, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, fod Ms Maria Battle wedi’i phenodi’n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Hi fydd yn olynu Mr David Francis pan ddaw ei gyfnod ef i ben ar 31 Mawrth 2012.