![]() |
![]() |
Gwasanaethau Arbenigol Plant a Phobl IfancCroeso i wefan Prosiect Gwasanaethau Arbenigol Plant a Phobl Ifanc. Yn ystod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 23 Hydref 2002 cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd, Jane Hutt, y broses newydd ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Cyflawnwyd adolygiad o wasanaethau arbenigol plant a phobl ifanc gan Gomisiwn Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a adnabyddir bellach fel Comisiwn Iechyd Cymru. O ganlyniad i’r adolygiad hwn a’r ymgynghoriad cyhoeddus a ddilynodd, defnyddiwyd Rhwydweithiau Clinigol a Reolir i benderfynu ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd arbenigol plant a phobl ifanc Cymru. Yn dilyn hyn, sefydlwyd Prosiect Gwasanaethau Arbenigol Plant a Phobl Ifanc gyda’r cylch gorchwyl canlynol; Datblygu gwasanaethau iechyd arbenigol i blant ledled Cymru sydd o ansawdd uchel, sy’n gytbwys ac yn gynaliadwy sydd wedi’i seilio ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ac sy’n rhoi plant a’u gofalwyr wrth wraidd y broses o gynllunio a darparu’r gwasanaethau hyn. Byddai’r amcanion canlynol yn ein cynorthwyo i gyflawni hyn:
Mae safonau Gwasanaethau Arbenigol Plant a Phobl Ifanc wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn ychwanegu at y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant a bod modd eu defnyddio gyda’r fframwaith hwn.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 06/05/2009 |
|