Rhwydweithiau Ymchwil a Datblygu Cymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am sefydlu cyfres o rwydweithiau ymchwil a datblygu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y Rhwydweithiau'n datblygu gweithgareddau ymchwil sy'n seiliedig ar iechyd a gofal cymdeithasol ac yn galluogi Cymru i gychwyn, a chymryd rhan mewn, mentrau ymchwil o ansawdd uchel ar raddfa eang.

 

Bydd gwaith y Rhwydweithiau'n cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn uniongyrchol ac yn dangos cysylltiad llwyddiannus â gwaith Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC) a Rhwydwaith Ymchwil Glinigol y DU (UKCRN).

 

Cefnogir y Rhwydweithiau gan Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu.  Disgwylir iddynt ffurfio cysylltiadau cryf â Chynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygu (AWARD), a Chanolfan Cydgysylltu Rhwydwaith Ymchwil a Datblygiad Cymru (sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd).

 

Mae grantiau o hyd at 20k ar gael ar gyfer gweithgareddau paratoadol i helpu unigolion i ffurfio rhwydweithiau newydd neu i ddatblygu rhwydweithiau presennol a chydgrynhoi'r gwaith o gynllunio'u datblygiad. Gall hyn olygu ymgymryd ag astudiaethau cwmpasu a fydd yn helpu i lywio datblygiad y Rhwydweithiau yn y dyfodol. Gall yr astudiaethau hyn ffurfio'r sail ar gyfer cais hwyrach am statws rhwydwaith llawn.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am grantiau astudiaethau cwmpasu yw 28 Chwefror 2005.

I gael pecyn cais a ffurflen gais, cysylltwch â: Ian Owen ar (029) 2082 5252, neu ebostiwch Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu WORD@wales.gsi.gov.uk