Stop Smoking Wales 0800 085 2219 | Smoking Helpline 0800 1 690169

Ysmygu

Cefndir a Chyd-destun Polisi

Ysmygu yw achos pennaf salwch, anabledd a marw cyn pryd y gellir ei osgoi yng Nghymru. (Ffynhonnell: Her Iechyd Cymru)
Cyflwynwyd deddfwriaeth ddi-fwg yn cynnwys mannau cyhoeddus, gweithleoedd a cherbydau yng Nghymru ar 2 Ebrill 2007:


Beth mae GIG Cymru yn ei wneud am smygu?

Dim Smygu Cymru

Mae Dim Smygu Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rhan annatod o Iechyd Cyhoeddus Cymru lle mae’n ffurfio elfen ganolog ar raglen Rheoli Tybaco’r sefydliad.

Mae Dim Smygu Cymru yn wasanaeth iechyd arbenigol sy’n darparu clinigau ar gyfer oedolion sydd angen help i roi’r gorau i ysmygu. Mae’r gwasanaeth yn chwarae rhan flaenllaw mewn sawl menter rheoli tybaco leol a chenedlaethol. O ganlyniad, mae’r gwasanaeth yn chwarae rôl allweddol mewn lleihau effaith tybaco ar iechyd pobl Cymru, ac mae’n cwrdd â’r gofynion a osodwyd gan Cynllun Oes sy’n datgan y dylai pob ysmygwr sydd am roi’r gorau i ysmygu gael mynediad i un o wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu'r GIG o fewn mis o gael eu cyfeirio.

Mae Dim Smygu Cymru yn cynnig rhaglenni triniaeth 6-8 wythnos i gleientiaid, yn seiliedig ar fodel triniaeth diddyfnu.

Cynllunio gwasanaethau

Mae dogfen Asesu Anghenion Iechyd wedi cael ei chreu gan Dîm Dadansoddi Gwybodaeth Iechyd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i gynorthwyo partneriaethau iechyd lleol gyda chylch asesu anghenion iechyd 2006 er mwyn paratoi ar gyfer eu Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (HSCWB). Mae’r bennod hon yn cynnwys dangosyddion yn ymwneud â phlant ac oedolion sydd yn ysmygu tybaco.

Mae Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (HSCWB) yn cynnwys ystod o weithgareddau; o weithredu ataliol i wella iechyd a lleihau’r perygl o afiechyd, i wasanaethau gofal a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, awdurdodau lleol ac asiantaethau’r sector gwirfoddol a phreifat. Mae’r strategaethau i gyd yn seiliedig ar asesiadau o anghenion lleol a gynhaliwyd gan y GICC. Nod strategaethau HSCWB yw darparu atebion partneriaeth lleol i’r blaenoriaethau lleol a nodwyd ond mewn cyd-destun polisi cenedlaethol.


Cyflwyno Gwasanaethau

Ymgyrchoedd Cenedlaethol

Yn anelu at amddiffyn plant yn erbyn mwg ail-law mewn ceir.
Mae’r ymgyrch yn galw ar rieni, ac unrhyw un arall sy’n gwarchod plant, i addo cadw eu ceir yn ddi-fwg.
Yn ystod y cam hysbysebu cyntaf byddwn yn defnyddio radio lleol, hysbysfyrddau, cefn bysiau, cabanau aros bysiau a gwefan arbennig

Mentrau Lleol

Am fwy o wybodaeth am weithredu lleol a mentrau eraill ewch i Gwasanaethau GIG Lleol


Adroddiadau, Cyhoeddiadau ac Adnoddau

Mae Canllawiau Iechyd Map Meddygaeth yn dangos taith ddelfrydol y claf yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cyflyrau cyffredin a phwysig. Mae’n drosolwg lefel uchel wedi ei anelu at gleifion. Mae’r Map hefyd yn rhoi fframwaith ar gyfer creu llwybrau lleol gan ddefnyddio cynnwys wedi ei addasu neu newydd sy’n benodol i gymuned gofal iechyd lleol. Mae barn GIG Cymru yn cyflwyno gwybodaeth glinigol gyfredol yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer proffesiynolion ac mae angen mewngofnodi trwy Athens.

Mae Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am ddarparu canllawiau cenedlaethol ar hybu iechyd da ac atal a thrin afiechyd.
Mae Tystiolaeth GIG yn rhoi mynediad am ddim i wybodaeth glinigol ac anghlinigol – lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r wybodaeth yn cynnwys tystiolaeth, canllawiau a pholisi’r Llywodraeth. Mae wedi ei anelu’n bennaf at broffesiynolion ac ymarferwyr sydd yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r fideo yn dangos y straeon llwyddiant ysmygwyr sydd wedi cael cymorth i roi'r gorau iddi gan "Dim Smygu Cymru" am ddim a chyfeillgar gwasanaeth GIG Cymru.
 



[boxdoc]r;Llywodraeth Cymru;150791;1;maroon;[/boxdoc]