Gweithgaredd Corfforol

PhysicalactivityCefndir

Mae llawer o fuddion iechyd i wneud gweithgaredd corfforol yn rheolaidd, yn cynnwys iechyd a lles meddwl. Mae pobl sydd yn gorfforol egnïol yn lleihau’r perygl o ddatblygu’r prif glefydau cronig fel clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes a rhai canserau hyd at 50% ac yn lleihau’r perygl o farw cyn amser 20-30%. Amcangyfrifwyd bod cost anweithgarwch corfforol i Gymru tua £650 miliwn y flwyddyn. (Ffynhonnell: Dringo’n uwch: creu Cymru egnïol. Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009)
 

Cyd-destun Polisi

Dringo’n uwch: creu Cymru egnïol.  Cynllun gweithredu strategol 5 mlynedd (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009)
Nod y Cynllun Gweithredu yw cynyddu canran yr oedolion sy’n bodloni’r argymhellion gweithgaredd corfforol (30 munud o ddwysedd cymedrol o leiaf 5 diwrnod yr wythnos). Mae’n canolbwyntio ar sicrhau ein bod i gyd yn cyflwyno gweithgaredd corfforol i’n harferion o ddydd i ddydd.
Mae Dringo’n Uwch yn rhan o Ein Dyfodol Iach, dull strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru o wella ansawdd a hyd bywyd.

Beth rydym yn ei wneud ynghylch Gweithgaredd Corfforol?

 

Cynllunio Gwasanaethau

Cynhyrchodd Tîm Dadansoddwyr Gwybodaeth Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddogfen Asesu Anghenion Iechyd: Gweithgaredd Corfforol i gynorthwyo partneriaethau lleol gyda chylch 2006 o asesiad anghenion iechyd er mwyn paratoi ar gyfer eu Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (HSCWB). Mae’r bennod hon yn cynnwys dangosyddion yn rhoi manylion cyfrannau plant ac oedolion sy’n bodloni’r canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgaredd corfforol.
Cyhoeddir Strategaethau HSCWB lleol ar wefannau’r Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) a chaiff manylion ynglŷn â’r ffordd y caiff adnoddau eu targedu i fynd i’r afael ag anghenion iechyd gweithgaredd corfforol poblogaethau lleol. Rhestrir rhai enghreifftiau isod a gallwch gael mynediad i eraill trwy ddolen y BILl yn ein Cyfeirlyfr Gwasanaethau.

Cyflwyno Gwasanaethau

Rhaglenni Cenedlaethol

Mae Her Iechyd Cymru yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd i wybodaeth neu weithgaredd i’w helpu i wella eu hiechyd eu hunain yn cynnwys awgrymiadau ar Ffitrwydd.
Mae Nofio am Ddim yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc 16 oed ac iau yn ystod pob gwyliau ysgol; a Phobl hŷn 60 oed ac yn hŷn y tu allan i wyliau ysgol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi ymestyn y cynllun i ddarparu Nofio am Ddim 60+ drwy’r flwyddyn. 
Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn disgrifio’r broses lle mae cleifion yn cael rhaglen o weithgaredd corfforol wedi ei ‘rhagnodi’ ac mae’r canllaw yn rhoi cyngor penodol ar sefydlu, cynnal a gwerthuso cynlluniau atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff.
Mae Rhaglen Cleifion Arbenigol Cymru (EPP) yn darparu ystod o gyrsiau hunanreoli a gweithdai ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd hirdymor neu ar gyfer y rheiny sy’n gofalu am rywun â chyflwr hirdymor. Mae Testunau’r Cwrs yn cynnwys Ymarfer Corff.
Caiff Byw’n Weithgar ei ddiffinio fel unrhyw fath o weithgaredd corfforol, sy’n cael ei gyflawni fel rhan o fywyd bob dydd. Mae gwefan Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru yn rhoi mwy o wybodaeth.

Mentrau Lleol

 
Mae Timau Lleol Iechyd y Cyhoedd yn datblygu strategaethau lleol ac yn cynnal ystod eang o fentrau hybu iechyd penodol, yn cynnwys gweithio’n agos gyda phartneriaid mewn rhaglenni Gweithgaredd Corfforol.
 
Mae Tîm Lleol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd yn gweithio’n agos gyda Chynghrair Iechyd Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd i weithredu a monitro Strategaeth a chynllun gweithredu Gweithgaredd Corfforol Caerdydd gyfan. Mae prosiectau eraill, yn cynnwys "Cerdded i Iechyd" o dan arweiniad y Cynghrair Iechyd, wedi cael eu cefnogi i sefydlu nifer o deithiau cerdded mewn cymunedau lleol ac mae "Mentro Allan" o dan arweiniad Mewn Cymru, wedi cael ei gefnogi i gael arian gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae Rhaglen Lles Staff Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) Sir Benfro yn darparu gwiriadau iechyd a ffitrwydd parhaus, gyda gweithgareddau cysylltiedig fel sesiynau hyfforddiant rhwyfo, pilates, tai chi a rhaglen cerdded i redeg lle mae staff yn cyfarfod ar ôl gwaith ac yn dilyn rhaglen 12 wythnos hawdd i’w galluogi i redeg am 30 munud erbyn y diwedd. Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen ar gael ar y dudalen "Galwedigaeth Egnïol" isod:

Adnoddau

Dechrau egnïol, dyfodol egnïol - Canllawiau Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig ar weithgaredd corfforol. Mae’r canllawiau gwyddonol hyn wedi’u datblygu ar sail tystiolaeth fyd-eang sy’n dangos gymaint y bydd iechyd pobl yn elwa wrth iddynt wneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd drwy gydol eu hoes.
Promoting physical activity, active play and sport for pre-school and school-age children and young people in family, pre-school, school and community settings. (Canllawiau NICE 2009) Mae’r argymhellion yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed, yn cynnwys y rheiny â chyflwr meddygol neu anabledd
Mae Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru yn hwyluso rhannu gwybodaeth ac egwyddorion arfer gorau, â’r nod o gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol pobl Cymru. Mae ei wefan yn cynnwys tudalennau â data, arolygon, ymchwil a gwerthuso.

Cyhoeddiadau

Mae Cynyddu gweithgaredd corfforol Adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru 2007 yn amcangyfrif cost anweithgarwch corfforol i’r GIG yng Nghymru ac i economi Cymru yn gyffredinol.

  
Fframwaith ar gyfer gweithredu: gweithgaredd corfforol. GICC 2005

Promoting physical activity, active play and sport for pre-school and school-age children and young people in family, pre-school, school and community settings. (Canllawiau Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol 2009) Mae’r argymhellion yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed, yn cynnwys y rheiny â chyflwr meddygol neu anabledd

Ystadegau

Mae Arolwg Iechyd Cymru yn cynnwys gwybodaeth am lefelau gweithgaredd corfforol ar gyfer oedolion a phlant yng Nghymru