Cyngor Teithio

Y DaearRydych yn trefnu gwyliau i chi a’ch teulu neu gyfeillion. Rydych wedi gweithio’n galed drwy’r flwyddyn ac yn edrych ymlaen at gael saib. Efallai mai taith unwaith-mewn-oes ydyw, ond arhoswch am eiliad i feddwl. Mae’r GIG yn sefydliad yn y DU sy’n ceisio gofalu am eich iechyd a’ch lles cyn i chi gael eich geni a thrwy gydol eich oes. Mae gwasanaethau iechyd gwledydd eraill yn amrywio ac mewn rhai rhannau o’r byd nid ydynt yn gynhwysfawr iawn. Yn ogystal, efallai y byddwch yn wynebu amrywiaeth o beryglon iechyd yn eich cyrchfan dewisol y dylech eu hystyried ymlaen llaw. Nod yr adnoddau ar y dudalen hon yw eich helpu i bennu unrhyw beryglon y gallech eu hwynebu wrth deithio i’ch cyrchfan gwyliau. Mae llawer o gwmnïau teithio yn mynnu bod gennych yswiriant teithio cyn y byddant yn caniatáu i chi deithio ond eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych ddiogelwch digonol. Yn yr Undeb Ewropeaidd a rhai gwledydd eraill ceir trefniadau iechyd cyfatebol, a cheir manylion y rhain yn y ddolen isod i’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd. Os oes gennych anghenion iechyd penodol, bydd angen i chi sicrhau y byddwch yn gallu cael mynediad i unrhyw ofal parhaus sydd ei angen arnoch neu y bydd eich yswiriant yn diogelu eich anghenion iechyd. Os oes gennych unrhyw amheuon, efallai y dylech gael cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol.

Os ydych yn teithio ar fusnes, dylech sicrhau bod eich cyflogwr yn glir ynghylch eu cyfrifoldebau o ran eich iechyd a’ch lles tra’ch bod yn gweithio iddynt hwy dramor.
 

Dolenni Teithio’r GIG

Mae Canolfan a Rhwydwaith Cenedlaethol Iechyd Teithwyr (NaTHNaC) yn hyrwyddo safonau mewn meddyginiaeth teithio, gan ddarparu gwybodaeth iechyd teithwyr ar gyfer proffesiynolion iechyd a’r cyhoedd.


Cyngor i drigolion y Deyrnas Unedig am gynllunio ymlaen llaw, aros yn iach a chael triniaeth mewn mannau eraill yn y byd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am drefniadau ar draws yr Undeb Ewropeaidd (EU), Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir ar gyfer cydlynu systemau gofal iechyd yr aelod-wladwriaethau.

Mae’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) wedi cymryd lle’r hen ffurflen E111. O 1 January 2006, nid yw ffurflenni E111 yn ddilys bellach. Mae’r EHIC yn rhoi hawl i driniaeth yn ystod ymweliad dros dro. Rydych yn gymwys am EHIC os ydych yn preswylio fel arfer yn y DU.

Gweler hefyd y wefan mynediad cyhoeddus 'Fit for Travel' sy’n rhoi gwybodaeth iechyd teithio ar gyfer pobl sy’n teithio dramor o’r DU.

Noder bod y gronfa ddata gysylltiedig TRAVAX ar gael i broffesiynolion gofal iechyd GIG Cymru trwy safle Mewnrwyd HOWIS.

Ydych chi’n ymweld â’r Deyrnas Unedig (Cymru)? A wyddoch chi y gallai fod yn rhaid i chi dalu am driniaeth mewn ysbyty tra’ch bo chi yma? 
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy'r ddolen isod: