Clust, Trwyn a Gwddf (ENT)
Mae Clust, Trwyn a Gwddf yn ymwneud ag ystod eang o broblemau meddygol. Maent yn amrywio o fân anhwylderau i gyflyrau meddygol difrifol sy'n gofyn am ymyriadau meddygol.
Gofynion ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Adsefydlu i Oedolion
Yn 2009 cafodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyngor gan Grŵp Cynghori Sefydlog Arbenigol ar Awdioleg (ASSAG) Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru (WSAC) a chytunodd y dylid mabwysiadu'r safonau ansawdd uchod yng Nghymru.
Gyda mewnbwn ystod o randdeiliaid dros gyfnod o dair blynedd, datblygodd Adran Iechyd yr Alban Safonau Gwasanaethau ar gyfer gwasanaethau adsefydlu o ran y clyw i oedolion. Lluniwyd y fethodoleg ar gyfer datblygu'r Safonau gan Quality Improvement Scotland (QIS) ac mae tystiolaeth i'w hategu sy'n cynnwys cyfeiriad at ddogfennau polisi gwasanaeth iechyd Cymru. Roedd cyfraniadau o wahanol rannau o'r DU gan gynnwys cyfraniad gan Awdiolegydd o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
- Gofynion ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Adsefydlu i Oedolion (Saesneg yn Unig)
Taflen Sut i Ddefnyddio'ch Cymorth Clyw
Mae'r daflen 'Sut i Ddefnyddio'ch Cymorth Clyw' a gyhoeddwyd yn 2008 wedi'i chyhoeddi bellach. Ei nod yw rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam i gleifion ynghylch sut mae defnyddio a gofalu am eu cymorth clyw. Mae hefyd yn cynnwys manylion cyswllt diweddaraf pob elusen a sefydliad perthnasol i bobl fyddar.
Mae pob Clinig Clyw yn ymwybodol o'r daflen ddiwygiedig a gofynnwyd iddynt gyfeirio eu cleifion at y daflen ar-lein. Mae'r sector gwirfoddol hefyd yn cyfeirio'n helaeth at y daflen.
