Clefyd y Galon

Cefndir

HeartMae clefyd y galon yn rhoi baich sylweddol marwolaeth cyn amser a salwch ar genedl Cymru. Mae mynd i’r afael â hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru o ran gwella gwasanaethau.
Mae clefyd coronaidd y galon yn cael ei achosi gan rydwelïau sy’n cyflenwi’r galon yn teneuo ac mae hyn oherwydd deunydd brasterog o’r enw atheroma yn casglu yn raddol. Gall y teneuo achosi cnawdnychiant myocardaidd (trawiad ar y galon), angina (poen neu anesmwythyd yn y frest neu rannau cyfagos o’r corff oherwydd diffyg ocsigen i’r galon) a ffurfiau eraill ar glefyd coronaidd y galon. Yng Nghymru yn 2004, clefyd coronaidd y galon oedd yn gyfrifol am dros 6,000 o farwolaethau – ychydig yn llai na 19% o’r holl farwolaethau.  Er bod nifer y bobl sydd yn marw o glefyd coronaidd y galon wedi bod yn disgyn dros y tri degawd diwethaf, mae cyfradd y marwolaethau oherwydd clefyd coronaidd y galon yn amrywio’n sylweddol, gyda’r cyfraddau uchaf yng nghymoedd de Cymru a gogledd ddwyrain Cymru.  Mae cyfradd y marwolaethau yn y bumed ward fwyaf ddifreintiedig bron draean yn uwch nag yn y bumed ward leiaf ddifreintiedig. Mae’r amrywiad hwn yn her i bawb sy’n gysylltiedig â gofal y galon. 
Methiant y Galon yw’r unig brif glefyd cardiofasgwlaidd lle mae’r achosion a’i amlygrwydd yn cynyddu yn bennaf oherwydd bod mwy o bobl yn goroesi trawiad ar y galon a’r cynnydd yn y boblogaeth oedrannus. 
Mae afreoleidd-dra’r galon yn anhwylderau trydanol yn y galon; mae’r rhain hefyd yn rhoi baich sylweddol clefydau ar gymunedau Cymru gan roi cyfrif am dros 3,000 o farwolaethau sydyn bob blwyddyn yng Nghymru. 
Yng Nghymru mae tua 425 o blant yn cael eu geni bob blwyddyn â chlefyd cynhenid y galon.  Mae’r graddfeydd goroesi ar gyfer y plant hyn wedi gwella’n sylweddol dros yr hanner can mlynedd diwethaf ac o ganlyniad mae gan fwy o oedolion na phlant glefyd cynhenid y galon. 
Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol(NSF) i Gymru ar gyfer Clefyd y Galon, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009 yw’r brif ddogfen bolisi ar gyfer cyflwyno a datblygu gwasanaethau ar gyfer yr ystod o glefydau’r galon a amlinellir uchod.

Strategaethau a pholisïau

Mae NSF Clefyd y Galon yn diweddaru NSF Clefyd Coronaidd y Galon 2001 ac yn ystyried Cynllun Oes, Adolygiad o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a Bwletin Tystiolaeth Iechyd: Clefyd Coronaidd y Galon, ynghyd â datblygiadau mewn ymarfer clinigol.  Mae’n cynnwys saith o Safonau sef: 
 
1.     Hyrwyddo calonnau iach
2.     Rheoli ffactorau risg ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd : Atal mwy o niwed i’r galon ymysg y rheiny â ffactorau risg uchel neu sydd â’r clefyd
3.     Rheoli gofal cleifion â chlefyd coronaidd y galon
4.     Rheoli gofal cleifion â methiant cronig y galon
5.     Rheoli gofal cleifion ag afreoleidd-dra a theuluoedd dioddefwyr ifanc ataliad ar y galon
6.     Darparu adsefydlu cardiaidd
7.     Rheoli gofal oedolion â chlefyd cynhenid y galon
 
Diben pennaf Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yw gwella canlyniadau iechyd.  Mae’r NSF hwn yn ystyried y dystiolaeth wyddonol a chlinigol ddiweddaraf ac felly’n rhoi sail ddiweddar ar gyfer cynllunio a datblygu gwasanaethau ar gyfer atal a thrin clefyd y galon.
Mae’r Gofynion Ansawdd Cardiaidd wedi cael eu datblygu gyda’r gwasanaeth i gefnogi Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (NSF) Clefyd y Galon wedi ei ddiweddaru.  Mae’r set lawn o Ofynion Ansawdd yn cynrychioli cam arwyddocaol ymlaen o ran sicrwydd ansawdd gwasanaethau’r galon yng Nghymru.  Mae’r Gofynion Ansawdd yn disgrifio’r safonau gofal o ansawdd uchel fydd ar waith unwaith bydd NSF Clefyd y Galon wedi cael ei weithredu’n llawn.
Mae Fframwaith Strategol yn gosod rhaglen waith gardiaidd ar gyfer Cymru wedi ei ategu gan Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Clefyd y Galon a’r Gofynion Ansawdd.

Gwasanaethau

Cafodd Rhwydweithiau’r Galon Cymru eu sefydlu ym mis Medi 2002 i ddatblygu gweithredu’r NSF ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon ac maent yn parhau i ddwyn y gwaith sy’n gysylltiedig â Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru ar gyfer Clefyd y Galon ymlaen.
Mae Grŵp Cydlynu Rhwydweithiau’r Galon yn cefnogi llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhwydweithiau’r Galon Rhanbarthol a rhanddeiliaid Cenedlaethol eraill gyda chyngor ac arweiniad ar y strategaeth, polisi a safonau yn ymwneud â’r galon a materion gweithlu.  Mae Rhwydweithiau’r Galon yn rhoi ffocws rhanbarthol ar gyfer gwella gwasanaethau’r galon.  Mae gwefan  Rhwydweithiau’r Galon Cymru yn darparu dolenni i Rwydweithiau’r Galon rhanbarthol a gwybodaeth am archwiliad clinigol y galon, cyhoeddiadau, grwpiau cenedlaethol a digwyddiadau cyfredol.

Cynllunio Gwasanaethau

Mae Tîm Dadansoddi Gwybodaeth Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio set o broffiliau rhwydwaith y galon rhanbarthol i gynorthwyo’r Rhwydweithiau gyda’u dealltwriaeth o batrymau clefydau a ffactorau risg ac i asesu a yw anghenion y poblogaethau y maent yn eu gwasanaethu, o ran gofal y galon, yn cael eu bodloni’n briodol.  Bydd yr adroddiadau hefyd o ddiddordeb i eraill yn y gwasanaeth iechyd yn cynnwys y rheiny sy’n gweithio mewn partneriaethau iechyd lleol.
Cafodd adroddiad yn archwilio darpariaeth angiograffeg ac ailfasgwlareiddio yng Nghymru ei gyhoeddi ym mis Medi 2009.  Cynhaliwyd y gwaith hwn ar gais Rhwydweithiau’r Galon Cymru i gynorthwyo gyda chynllunio a chyflwyno gwasanaethau’r galon yn deg ar draws Cymru.
Mae’r Tîm Dadansoddi Gwybodaeth Iechyd hefyd yn casglu data ar lefelau clefyd coronaidd y galon ymysg poblogaeth Cymru.  Mae data o’r fath yn galluogi tueddiadau arwyddocaol ac unrhyw grwpiau penodol o’r boblogaeth sy’n cael eu heffeithio i gael eu hadnabod, ac mae’n galluogi cyflwyno gwasanaethau iechyd y cyhoedd arbenigol hygyrch, priodol ac o ansawdd uchel, mewn partneriaeth ac i gefnogi cyrff cenedlaethol a lleol eraill.

Mae Tîm Penderfynyddion Ehangach ac Anghydraddoldebau Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu Fframweithiau ar gyfer Gweithredu ar Weithgaredd Corfforol, Maeth a Rheoli Tybaco.  Mae’r rhain yn gwneud argymhellion ar gyfer gweithgaredd i gael ei gyflwyno gan bartneriaid lleol. Trwy ei raglenni gwella iechyd, nod yr Ymddiriedolaeth yw defnyddio ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth i leihau smygu tybaco ac yfed alcohol, gwella deiet a chynyddu lefelau gweithgaredd corfforol ar gyfer poblogaeth Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio cyfres o offer rhyngweithiol i helpu sefydliadau’r GIG i amcangyfrif faint o adsefydlu cardiaidd sy’n ofynnol i fodloni safonau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE).  Profwyd bod adsefydlu cardiaidd yn effeithiol a bod ganddo’r potensial i atal marwolaethau cyn amser.

Rhaglenni Cenedlaethol

Datblygwyd Her Iechyd Cymru i helpu i gyfrannu tuag at atal afiechyd.  Mae’n cyfeirio aelodau o’r cyhoedd at wybodaeth neu weithgaredd i’w helpu i wella eu hiechyd eu hunain.
·         Her Iechyd Cymru
Mae tudalen Gardiofasgwlaidd y Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth a chwnsela a ddarperir gan ystod eang o staff proffesiynol ar newidiadau i ffordd o fyw, deiet, ymarfer corff, smygu, rheoli pwysau, adnabod symptomau, rheoli pwysau, smygu a rheoli straen.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn buddsoddi dros £4 miliwn dros dair blynedd (2008 – 2011) i gefnogi, datblygu a gwerthuso cynlluniau atgyfeirio ymarfer corff yng Nghymru.
Mae atgyfeirio ymarfer corff neu atgyfeirio gan feddyg teulu yn disgrifio’r broses lle caiff cleifion raglen o weithgaredd corfforol wedi ei ‘rhagnodi’ ar eu cyfer. Mae’r canllaw hwn yn rhoi manylion cyngor penodol ynghylch sefydlu, cynnal a gwerthuso cynlluniau atgyfeirio ymarfer corff.
Dim Smygu Cymru yw’r gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru ac mae’n cynnig cymorth cyfeillgar, am ddim i smygwyr sy’n barod i roi’r gorau iddi.

Adnoddau

Mae Map Meddygaeth yn rhoi delwedd o daith ddelfrydol y claf, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer cyflyrau cyffredin a phwysig yn cynnwys Clefyd Coronaidd y Galon. Mae Canllawiau Cardiofasgwlaidd NICE wedi eu cynllunio i hybu iechyd da ac atal afiechyd.  Mae NHS Evidence yn wasanaeth ar y we sy’n rhoi mynediad i wybodaeth glinigol o ansawdd uchel wedi ei anelu at broffesiynolion iechyd. 

Ystadegau

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ONS yn cynhyrchu data ar farwolaethau yn sgil clefydau cylchrediad y gwaed, mae Arolwg Iechyd Cymru yn adrodd ar ffyrdd o fyw a salwch yng Nghymru ac mae’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau yn cynnwys data gofal sylfaenol yn ôl crynodeb clinigol (Clefyd Coronaidd y Galon ac ati) ac yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol.
Caiff ystadegau ar atgyfeirio i amserau trin ar gyfer gwasanaethau’r galon eu cynhyrchu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.
Mae IPU yn rheoli ac yn cynnal prif gadwrfa GIG Cymru ar gyfer data iechyd Cymru gyfan, yn arbennig data sy’n ymwneud â gweithgaredd ysbytai. Mae safle Gwybodaeth ac Ystadegau Iechyd Cymru ar y Rhyngrwyd wedi cael ei ddatblygu i helpu i fodloni gofynion gwybodaeth y GIG, y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill, ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol 
Mae Mapiau Iechyd Cymru yn offeryn rhyngweithiol y gellir ei ddefnyddio i archwilio amrywiaeth o ddangosyddion iechyd wedi eu rhoi mewn categorïau eang, fel Clefyd Coronaidd y Galon, gweithdrefnau cyffredin ac achosion anafiadau.  Mae’r cyhoeddiad cyntaf yn canolbwyntio ar ddata’n ymwneud â derbyniadau i ysbytai o Gronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW)
Mae Tablau Blynyddol Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) yn cynnig Prif ffigurau’n ymwneud â derbyniadau i ysbytai (cleifion mewnol, derbyniadau achosion dydd) sydd ar gael i’w llwytho i lawr ar Fformat Dogfen Gludadwy (PDF).