Clefyd Arennol

Cefndir

kidneysMae gan tua 10,000 o bobl yng Nghymru glefyd arennol ac mae llawer mwy mewn perygl o gael y clefyd hwn. (Ffynhonnell: Cynllun i Fynd i’r Afael â Chlefyd Arennol yng Nghymru: Datganiad Polisi: Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007)

Mae GIG Cymru yn wynebu’r her o ymateb i alw cynyddol am wasanaethau arennol wrth wynebu poblogaeth sy’n heneiddio ac adnoddau penodol, ynghyd ag angen i sicrhau tegwch a pharhad gwasanaethau.

Os ydych yn chwilio am wybodaeth o safbwynt claf ar Fethiant yr Arennau neu Drawsblannu Arennau ewch i dudalennau Galw Iechyd Cymru gan ddefnyddio’r dolenni gyferbyn. 


Cyd-destun Polisi 

Nod polisi arennol Llywodraeth Cynulliad Cymru yw gwella ansawdd y gofal ar gyfer pobl sydd â chlefyd arennol neu sydd mewn perygl o’i gael. Y ddogfen bolisi allweddol sy’n cefnogi’r nod hwn yw Cynllun i Fynd i’r Afael â Chlefyd Arennol 2007 sydd yn rhan o ymdrechion y Llywodraeth i gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol o’r radd flaenaf fel y nodir yng Nghynllun Oes 2005.


Gwasanaethau

Cynllunio Gwasanaethau

Cafodd Dau Rwydwaith Arennol Cymru (Gogledd a De Cymru) eu sefydlu ar ddechrau 2008 i gefnogi cynllunio a darparu Gwasanaethau Arennol ar gyfer poblogaeth Cymru.  

Yn 2009 cytunodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sefydlu un Rhwydwaith Clinigol a Reolir ar gyfer Gwasanaethau Arennol yng Nghymru. Yn y strwythur newydd hwn bydd un Bwrdd Rhwydwaith aml-bwrpas sydd yn disodli’r Grŵp Cynghori Arennol a dau Fwrdd Rhwydwaith Arennol presennol. 
Mae Fframwaith Strategol ar gyfer 2008-11 wedi cael ei ddrafftio i nodi’r ffordd y gellir gwella Gwasanaethau ac i roi manylion ynghylch y canlyniadau a ddisgwylir wrth weithredu Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Cynllun i Fynd i’r Afael â Chlefyd Arennol.


Beth mae’r GIG yng Nghymru yn ei wneud ynghylch Clefyd Arennol?

Yn hanesyddol, mae ffocws datblygu’r gwasanaeth arennol wedi bod ar ddarparu therapi amnewid arennol (RRT), yn hytrach nag ar ddull cytbwys o gwmpasu’r sbectrwm cyfan o ataliaeth i ofal lliniarol. Mae angen i’r gwasanaethau newid felly. (Ffynhonnell: Cynllun i Fynd i’r Afael â Chlefyd Arennol yng Nghymru: 2007)
 
Mae’r safonau yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn disgrifio’r gwasanaethau a’r cyfleusterau y dylai cleifion eu disgwyl ac yn cynnwys pob agwedd ar lwybr y clefyd, gan bwysleisio gofal sydd yn canolbwyntio ar y claf a gwaith tîm amlddisgyblaethol.
 

Atal Clefyd Arennol 

Bydd mwy o bwyslais ar atal clefyd arennol cyn iddo ddigwydd. Mae cyngor ynghylch ffordd o fyw fel y rhoddir trwy ymgyrch Her Iechyd Cymru yn ceisio hyrwyddo ac atal Clefyd yr Arennau.

Canfod clefyd arennol yn gynnar pan fydd yn digwydd

Gall gweithredu rhagweithiol i gyfyngu ar ddatblygiad y clefyd ddilyn canfod effeithiol ymysg pobl sydd mewn perygl. 
Er enghraifft, mae cleifion â diabetes y mae lefel y siwgr yn eu gwaed yn cael ei reoli’n wael mewn perygl cynyddol o ddatblygu clefyd arennol. Caiff rheoli lefelau siwgr yn y gwaed ei nodi sydd, os yw’n cael ei weithredu, yn lleihau’r achosion o glefyd arennol ymysg y grŵp hwn. (Ffynhonnell: Cynllun i Fynd i’r Afael â Chlefyd Arennol)
 

 

Mynediad Gwell i bob elfen ar ddiagnosis a thriniaeth



Gofal arbenigol gan Dimau Amlddisgyblaethol 

Argaeledd gwell organau i’w trawsblannu

Gwasanaethau sy’n cael eu trefnu ar gyfer dialysis mor agos i’r cartref â phosibl 

Mae digwyddiadau fforymau cleifion yn cael eu cynnal ar draws Cymru ym mhob uned arennol er mwyn galluogi cleifion i roi sylwadau a chyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth cludo arennol pwrpasol newydd yng Nghymru. 
 

 

Gwasanaethau arennol wedi eu dylunio a’u cynllunio’n well

 
Bydd Rhwydwaith Arennol Cymru Gyfan yn cynllunio ac yn datblygu gwasanaethau ar draws Cymru, gan helpu i wella mynediad a gofal ar gyfer cleifion. Bydd yn dod â’r Grŵp Cynghori Arennol a Rhwydweithiau Arennol Gogledd a De Cymru ynghyd.
 

 Mentrau/Rhaglenni

Ffynonellau Data

 
Mae Data Cyflawni Ansawdd a Chanlyniadau y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn mesur sut mae practisau meddygon teulu yn cyflawni yn ymwneud â’r contract ac mae’n ei wneud yn haws monitro cyflyrau hirdymor yn cynnwys Clefyd Cronig yr Arennau.
Mae adroddiadau Gwaed a Thrawsblannu’r GIG yn rhoi gwybodaeth am weithgaredd rhoi arennau, rhestrau trawsblannu a thrawsblannu ar gyfer pob canolfan trawsblannu arennau yn y DU. Mae data ar amserau aros canolrif i gael trawsblaniad ac ar gyfer isgemia ar gyfer pob canolfan hefyd yn cael eu cyflwyno. Mae’r wybodaeth yn seiliedig ar ddata Cofrestr Rhoi Organau’r DU a gedwir gan Wasanaeth Gwaed a Thrawsblannu’r GIG.


Adnoddau/Cyhoeddiadau