Partneriaeth Cydwasanaethau
Sefydliad un-pwrpas yw’r Bartneriaeth Cydwasanaethau sy’n cynorthwyo cyrff statudol GIG Cymru trwy ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau cefnogi o safon uchel, gan gynnwys:
- Gwasanaethau Archwilio a Sicrwydd
- Gwasanaethau Contractwyr
- Gwasanaethau Cyflogaeth
- Gwasanaethau Cyfleusterau
- Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg
- Gwasanaethau Rhagnodi
- Gwasanaethau Caffael
- Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru
Pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n gyfrifol am gydwasanaethau ac am gytuno ar y cynllun busnes blynyddol. Cyfarwyddwr Cydwasanaethau GIG Cymru a’r penaethiaid gwasanaeth sy’’n gyfrifol am gyflwyno’r cynllun ar ran GIG Cymru.
- Partneriaeth Cydwasanaethau (Saesneg yn unig)
