Llif Gwaith Ysbytai
Mae’r Prosiect Llif Gwaith Ysbytai yn ateb TG i dderbyn a rheoli negeseuon clinigol electronig o fewn a rhwng byrddau iechyd, a gall wneud y gorau o fuddion Prosiect e-Gyfeiriadau Porth Cyfathrebu Clinigol Cymru.
I ddechrau, bydd yn caniatáu adrannau cofnodion iechyd i dderbyn a rheoli negeseuon clinigol electronig ac ychwanegu cleifion at restr aros cleifion allanol.
Wrth i’r prosiect ddatblygu, bydd cyfeiriadau electronig yn cael eu trosglwyddo o adrannau cofnodion iechyd (neu adrannau eraill a all fod yn cadw cofnodion) i glinigwyr ar gyfer blaenoriaethu ar-lein ar Porthol Clinigol Cymru. Bydd gan y Porthol offeryn Blaenoriaethu Cyfeiriadau newydd wedi’i integreiddio ynddo. Yn y pen draw, ni ddylid fod angen argraffu cyfeiriadau mwyach ar wahân i storio nodiadau achos am resymau meddygol -gyfreithiol.
Dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddatblygu Cais Llif Gwaith Ysbytai yn dilyn gweithredu eu mabwysiadwr cynnar, Porth Cyfathrebu Clinigol Cymru.
Mae’r prosiect bellach yn cael ei ddatblygu mewn ffordd gydweithredol gyda phob Bwrdd Iechyd yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre, gyda chymorth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, a fydd yn arwain ar lywodraethu a diogelwch cleifion.
Bydd y Prosiect Llif Gwaith Ysbytai yn arwain at nifer o fuddion i Fyrddau Iechyd Cymru, yn fwyaf pwysig, trosglwyddo data cleifion yn electronig yn ddiogel ac yn gyflym rhwng clinigwyr, a staff cofnodion iechyd a gweinyddol.