Beth yw Cais gan Feddyg Teulu am Brawf?
Bydd y system Cais gan Feddyg Teulu am Brawf yn caniatáu i staff mewn Meddygfeydd Teulu ofyn am brofion patholeg yn electronig.
Yng Nghymru, mae nifer y ceisiadau am brofion patholeg wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Cafwyd ceisiadau am tua 15 miliwn o brofion patholeg yng Nghymru'r llynedd. Daeth dros hanner y ceisiadau hyn o Feddygfeydd Teulu.
Bydd y system Cais gan Feddyg Teulu am Brawf yn defnyddio Porth Cyfathrebu Clinigol Cymru i gymryd gwybodaeth gywir o gofnod y claf sydd gan Feddyg Teulu, megis enw’r claf, cyfeiriad a rhif GIG yn ogystal â gwybodaeth glinigol megis eu meddyginiaethau, a’i ddefnyddio i lenwi’r cais am brawf.
Hefyd darperir rhestr electronig i Feddygon Teulu o’r profion sydd ar gael trwy Lawlyfr Patholeg Cymru. Caiff y cais ei anfon yn electronig i labordy ysbyty. Wedyn bydd y system Cais gan Feddyg Teulu am Brawf yn printio ffurflen gais a labeli ar gyfer sampl a gymerwyd o’r claf.
Bydd hyn yn caniatáu i staff meddygfeydd ofyn am y profion hyn yn effeithlon a gweld y canlyniadau ar gyfer eu cleifion yn electronig. Gan y bydd manylion cleifion a gwybodaeth ynghylch prawf yn cael eu hanfon yn electronig, ni fydd yn rhaid i staff labordai drawsgrifio ceisiadau am brofion i’w system eu hunain.
Hefyd gall y rhai sy’n defnyddio’r system Cais gan Feddyg Teulu am Brawf weld canlyniadau blaenorol ar gyfer cleifion o fewn eu meddygfeydd a ddeilliodd o geisiadau gan feddygfeydd eraill ac ysbytai. Bydd hyn yn helpu osgoi dyblygu ceisiadau am brofion.
Mae cynllun y system Cais gan Feddyg Teulu am Brawf yn cynnwys dolenni i Borth Cyfathrebu Clinigol Cymru, Porth Clinigol Cymru, Llawlyfr Patholeg Cymru a’r System Rheoli Gwybodaeth Labordy newydd, gan sicrhau y bydd systemau cleifion yng Nghymru’n gallu siarad â’i gilydd a symud tuag at gofnodion a rennir, a gwella diogelwch cleifion.