Ym 1997, arweiniodd y Fonesig Fiona Caldicott adolygiad ar sut yr oedd Gwybodaeth Cleifion Adnabyddadwy yn cael ei thrafod gan y GIG. Fe wnaeth ‘Adroddiad Caldicott’ nifer o argymhellion ar gyfer rheoleiddio defnyddio a throsglwyddo gwybodaeth cleifion adnabyddadwy. Dilynodd arweiniad ar gyfer GIG Cymru yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru - 'Protecting Patient Identifiable Information: Caldicott Guardians in the NHS (1999) 92’'. Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud yn GIG Cymru i weithredu argymhellion Adroddiad Caldicott ac ‘Egwyddorion Caldicott’.
Yn dilyn argymhelliad Grŵp Cymorth Gwarcheidwaid Caldicott (CGSG) Cymru gyfan, adolygwyd y llawlyfr yn sylweddol i ystyried yr amgylchedd y mae’r GIG yn gweithredu ynddo heddiw, a chafodd ei ailgyhoeddi ym mis Tachwedd 2008.
Mae’r llawlyfr ar gael ar-lein a chaiff ei ategu gan wefan 'Caldicott: Principles into Practice'. (gwefan Saesneg)
Mae’n rhoi fframwaith gwybodaeth i bob Gwarcheidwad, Arweinwyr Caldicott ac Arweinwyr Llywodraethu Gwybodaeth mewn practis llai, sy’n cynorthwyo i ddiogelu gwybodaeth cleifion adnabyddadwy a moeseg cyfrinachedd, ac ar yr un pryd cydnabod pwysigrwydd protocolau sy’n gysylltiedig â Rhannu Gwybodaeth.
Mae’r Llawlyfr Sylfaenol yn dweud wrth Warcheidwaid beth sydd angen iddynt ei wneud a pham, ac mae’r wefan yn dangos sut i wneud hynny.