Llawlyfr Patholeg Cymru

Mae Llawlyfr Patholeg Cymru (WPH) yn wasanaeth gwybodaeth.
Mae’n darparu catalogau cenedlaethol a lleol o brofion y gellir gwneud cais amdanynt, rheolau ac arweiniad ar gyfer gwneud ceisiadau’n electronig (trwy Porthol Clinigol Cymru a systemau meddygon teulu) ac adnodd gwybodaeth ar y we ar gyfer yr holl staff clinigol.
Mae cyflwyno System Rheoli Gwybodaeth Labordai (LIMS) genedlaethol newydd ar gyfer Cymru yn golygu bod angen adolygu a diweddaru’r WPH gweithredol er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben yn amgylchedd y dyfodol.


Gweithdy ar Lawlyfr Patholeg Cymru


Cynhaliwyd Gweithdy ar Lawlyfr Patholeg Cymru yn 2010, i ymgysylltu â chynrychiolwyr priodol o Wasanaethau Patholeg ledled Cymru.
 
Roedd nifer o bobl yn bresennol yn y gweithdy ac mae adborth yn dangos bod gwell dealltwriaeth erbyn hyn o’r llawlyfr presennol, ei berthynas â gwneud ceisiadau electronig am brofion patholeg a’r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n addas at y diben wrth i’r LIMS newydd gael ei ffurfweddu a’i weithredu ledled Cymru.  

Adolygodd y gweithdy ofynion swyddogaethol yr WPH presennol i amlygu ble mae safoni ledled Cymru yn briodol.
 
Sefydlwyd gweithgorau hefyd i nodi gofynion manwl ar gyfer newidiadau cymeradwy a rhoi trefniadau rheoli gwasanaeth priodol ar waith ar gyfer yr WPH presennol. 


Y Camau Nesaf


Yr amcanion nesaf yw gweithredu newidiadau cymeradwy a threfniadau rheoli gwasanaeth ar gyfer yr WPH presennol.
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 01 Awst 2012
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com