Gwasanaethau Rhwydwaith

Rydym yn sicrhau bod y systemau clinigol pwysig a ddefnyddir mewn gofal iechyd yn gallu rhedeg ddydd a nos trwy gydol y flwyddyn a bod y defnydd gorau yn cael ei wneud o’u gallu. Cyflenwir y rhwydwaith gan y prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA).
 
Mae hyn yn cynnwys rheoli’r  isadeiledd cenedlaethol a data (e-bost) a gwasanaethau llais (ffôn). (Dogfen yn Saesneg)
 
Rydym yn cynnig ymateb 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn ar gyfer problemau ar y rhwydwaith.
 
Mwy ynglŷn â’n gwasanaethau a ddarperir dros y rhwydwaith:
·    E-bost
·    Gwefannau
·    Ffonau (gan gynnwys Rhwydwaith Ffôn Iechyd Cymru – sy’n sicrhau y gall staff ffonio sefydliadau iechyd eraill yng Nghymru yn gost effeithiol)
Rydym hefyd wedi gosod cyfleusterau fideo-gynadledda ar gyfer sefydliadau ar draws GIG Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei estyn yn barhaus ac mae eisoes yn cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus mewn ardaloedd gwledig lle mae gofyn i aelodau amlddisgyblaethol o’r tîm gyfarfod i asesu cleifion.
 

Dolenni cysylltiedig

 
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 01 Awst 2012
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com