Fy Iechyd Ar-lein

Bydd cleifion yn gallu cymryd mwy o ran yn eu gofal iechyd eu hunain trwy’r rhyngrwyd, mewn ffordd debyg i siopa neu fancio ar-lein.

Bydd Fy Iechyd Ar-lein yn rhoi cyfle i gleifion

 
  • wneud apwyntiadau gyda’u meddyg teulu
  • archebu presgripsiynau amlroddadwy
  • diweddaru eu manylion cyffredinol, fel newid cyfeiriad
 
o’u cyfrifiadur gartref.
 
Yn y dyfodol, efallai y bydd nodweddion sy’n canolbwyntio ar hunan ofalu hefyd yn cael eu datblygu i gynnwys rhybuddion, mynediad at gofnod meddygol y claf ei hun, a dolenni at gynnwys iechyd wedi’i bersonoli.
 

Mae manteision gwasanaethau ar-lein yn cynnwys:

 
  • Peidio â gorfod aros ar y ffôn i fynd trwodd at y feddygfa
  • Mynediad cyfleus at wasanaethau meddygon teulu o gartref neu’r gwaith - neu unrhyw le sydd â mynediad at y rhyngrwyd
  • Llai o waith gweinyddol i’r feddygfa 
 

Sut gallaf ei gael?

 
Mae angen i chi alw heibio eich meddygfa teulu a chofrestru. Bydd eich meddyg teulu yn rhoi llythyr cofrestru i chi, a bydd angen i chi fod â phrawf o bwy ydych chi gyda chi er mwyn eu galluogi i wneud hyn.
 

Mynediad diogel

Mae’r holl wybodaeth bersonol ar Fy Iechyd Ar-lein wedi cael ei diogelu gan ddefnyddio’r safonau uchaf o ddiogelwch ar y rhyngrwyd.
 

Beth fydd ffurf cynllun Fy Iechyd Ar-lein?

Mae cynllun Fy Iechyd Ar-lein yn cael ei lywio gan safbwyntiau cleifion a chlinigwyr. Mae eu hargymhellion yn cael eu defnyddio i ddatblygu swyddogaethau a golwg y borthol we.
 

Ble mae e nawr?

 
Mewn 254 o feddygfeydd ar draws Cymru.  Mae dros 18,000 o gleifion wedi cofrestru.
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 11 Mehefin 2013
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com