Systemau Sgrinio

Mae’r gwasanaeth cymorth sgrinio bob amser wedi cael ei gydnabod yn eang fel un o’r gorau yn y wlad, nid yn unig gan y rheiny sy’n derbyn gwasanaethau, ond hefyd gan sefydliadau cymorth yn Lloegr.
 

System Sgrinio Coluddion

Defnyddir y System Rheoli Gwybodaeth Sgrinio Coluddion (BSIMS) i reoli a gwahodd pobl sy’n gymwys ar gyfer sgrinio coluddion, i olrhain eu hymateb i’r gwahoddiad, a chadw cofnod o ganlyniadau’r prawf sgrinio.
 
Fe’i datblygwyd yn wreidddiol ar gyfer Sgrinio Coluddion Cymru yn 2008, ac mae ei llwyddiant wedi arwain at Gogledd Iwerddon yn ei mabwysiadu i gynnal ei raglen sgrinio coluddion.
 
Canser y coluddyn yw’r clefyd sy’n lladd y trydydd nifer fwyaf o ddynion a menywod yng Nghymru. Mae sgrinio coluddion yn datgelu canser y coluddyn yn gynnar, yn aml pan nad oes unrhyw symptomau, a phan mae triniaeth yn fwyaf effeithiol.
 
 

System Sgrinio’r Fron

 

Mae system Sgrinio’r Fron yn cael ei chynnal a’i datblygu gan NWIS, yn seiliedig ar system gan gyflenwr cenedlaethol y DU, sef  Temenos. Defnyddir y system gan Bron Brawf Cymru, rhaglen sgrinio Cymru i wahodd menywod rhwng 50 a 70 blwydd oed yn awtomatig, gyda’r nod o gyflawni prawf sgrinio pob 3 blynedd.


Modiwl Sgrinio Sytoleg Serfigol

Rydym yn cynnal ac yn datblygu’r modiwl Sgrinio Serfigol yn lleol ar y system ‘NHAIS -Exeter’ DU eang a ddefnyddir gan bob sefydliad Gofal Sylfaenol yn Lloegr a Gwasanaethau Sgrinio yng Nghymru.
 
Y grŵp oedran targed ar gyfer sgrinio serfigol yw menywod rhwng 20 a 64 blwydd oed.
 

Modiwl Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen

Wrth weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddwn yn cynnwys modiwl newydd i ategu sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen. Hon fydd rhaglen sgrinio gyntaf Cymru gyfan i dargedu dynion yn unig.  Mae tua 8,000 o bobl yn y DU yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i’r ymlediadau hyn, ac amcangyfrifir y gellir atal 50% o’r marwolaethau hyn trwy sgrinio o ansawdd uchel. Mae ymlediad aortaidd yn yr abdomen 6 gwaith yn fwy cyffredin ymhlith dynion na menywod.
 
 

Dolenni cysylltiedig

 

 

 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 29 Gorffennaf 2011
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com