Mae System Rheoli Radioleg Cymru Gyfan (RMS) sy’n caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu er mwyn cynnal gofal di-dor i gleifion ar draws holl sefydliadau GIG Cymru ar gael i’r mwyafrif o fyrddau iechyd yng Nghymru.
Mae’r prosiect RMS wedi uwchraddio pob system gwybodaeth radioleg bresennol i un sy’n gallu ffurfio sylfaen ar gyfer RMS Cymru Gyfan - Radis2.
Beth yw Radis2?
RMS sydd angen ymdrin yn gynyddol â chyfeintiau mwy o wybodaeth, a gofynir iddi berfformio swyddogaethau fwyfwy cymhleth.
Er mwyn bodloni’r angen hwn, mae’r system Radis wreiddiol wedi cael ei gwella a’i uwchraddio i greu Radis2.
Mae’n darparu sylfaen gadarn ar gyfer integreiddio systemau radioleg ledled Cymru. Bydd yn caniatáu mynediad diogel a rennir at:
· wasanaethau delweddu diagnostig
· canlyniadau
· delweddau
· gwybodaeth reoli
ar draws sefydliadau.
Beth yw radioleg a pham y mae angen gwasanaethau TG arno?
Radioleg yw’r arbenigedd sy’n ymdrin â thechnolegau delweddu meddygol. Mae radiolegwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnolegau delweddu fel:
· pelydrau-x
· tomograffeg gyfrifiadurol (CT)
· delweddu cyseiniant magnetig (MRI)
· tomograffeg allyriad positron (PET)
· uwchsain
Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn defnyddio system gwybodaeth radioleg i berfformio swyddogaethau fel:
· amserlennu cleifion
· adrodd clinigol
· dyrannu adnoddau
· adroddiadau gan reolwyr
Rheoli clinigau ac amserau aros gyda Radis 2
Mae Radis2 yn cyflawni swyddogaethau ychwanegol fel rheoli clinigau ac amserau aros.
Ymhen amser, bydd Radis2 yn cael ei gwella i ganiatáu swyddogaethau fel integreiddiad pen bwrdd gyda systemau archifo lluniau a chyfathrebiadau, sy’n ymdrin â dal, storio a dosbarthu delweddau radiolegol digidol.
Pam mae ei angen arnom?
Mae buddion yn cynnwys:
· Data a strwythur gwell
· Pen blaen soffistigedig sy’n ei gwneud hi’n haws i’w defnyddio
· Gall staff sy’n defnyddio’r system newydd gyflawni sawl tasg ar yr un pryd
· Rheoli ystadegau yn well
· Y gallu i reoli rhestrau aros radioleg yn fwy effeithiol
· Integreiddiad pen bwrdd gyda’n PACS a system arddywediad ddigidol
· Llai o systemau i staff fewngofnodi iddynt oherwydd bod systemau wedi cael eu hintegreiddio
· Rheoli defnyddwyr yn haws a rheoli codau yn well
· Defnyddio diweddariadau systemau haws gyda chleient hunanosod
· Mae modiwl adrodd uwchsain obstetreg pwrpasol yn caniatáu i adroddiadau strwythuredig gael eu llunio a dal data clinigol pwysig
· Y gallu i ddarparu adroddiadau e-bost awtomataidd i adrannau eraill a sefydliadau allanol fel CARIS (y Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynenedigol yn Abertawe)
Prosiectau eraill y System Rheoli Radioleg
· Prosiect peilot integreiddio System Archifo Lluniau a Chyfathrebiadau (PACS) – i ganiatáu i ddelweddau gael eu rhannu ar draws sefydliadau;
· Prosiectau Uno RadIS2 mewn Byrddau Iechyd sydd wedi cael eu ffurfio’n ddiweddar sydd wedi etifeddu mwy nag un enghraifft o RadIS2