Datblygwyd System Gweinyddu Cleifion (PAS) Myrddin gan staff bwrdd iechyd Hywel Dda mwy na degawd yn ôl, ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr.
Mae bellach wedi cael ei hargymell fel system genedlaethol ac mae’n cael ei rhoi ar waith yn raddol mewn ysbytai, yn storio data demograffig , cofnodion meddygol a gwybodaeth ddiagnostig cleifion.
Ym mis Mai 2008, fe’i rhoddwyd ar waith yng nghymuned iechyd Gogledd Cymru, ac roedd hyn yn cynnwys cydweithio rhwng bwrdd iechyd Aneurin Bevan a gynhaliodd mudo data, bwrdd iechyd Hywel Dda, a ddatblygodd y system, a Betsi Cadwaladr a roddodd y system ar waith.