Nododd y Strategaeth Isadeiledd Cenedlaethol (dogfen yn Saesneg) yr angen i leihau nifer y canolfannau data a ddefnyddir gan GIG Cymru.
Mae angen y canolfannau data i storio gweinyddwyr a gwybodaeth sy’n cynorthwyo â rhedeg y rhaglen yn llwyddiannus, gan gynnwys y prosiectau amrywiol a gynhelir oddi mewn iddi. Trwy gadw’r holl wybodaeth mewn un lleoliad, mae’n haws i’r rheiny sydd ag awdurdod i ddod o hyd iddi.
Fel rhan o fenter ehangach Llywodraeth Cymru, mae NWIS yn creu canolfan ddata Cymru gyfan, a fydd yn cael ei defnyddio mewn cydweithrediad â chanolfan y mae eisoes yn ei defnyddio.