Mae system Iechyd Cymunedol Plant 2000 (CCH2000) yn ymdrin ag ystod o swyddogaethau, gan gynnwys:
· Cofrestru plant a demograffeg
· Amserlennu a chanlyniadau imiwneiddio
· Iechyd cyn ysgol
· Iechyd ysgol
· Diogelu plant
· gan gynnwys amddiffyn plant, plant sy’n derbyn gofal a lles emosiynol
· Archwilio
· Sgrinio deintyddol
· Sgrinio’r golwg
· Gofynion anghenion arbennig
Rhyngwynebu â:
· Mamolaeth (ym Myrddau Iechyd Cymru, y System Gweinyddu Cleifion leol fyddai hon),
· Er y gellir ei defnyddio gydag unrhyw system Patholeg – mae ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio gyda Phatholeg yn Ysbyty Plant Birmingham
· Systemau lleol eraill, tra’n ategu amrywiaeth o swyddogaethau adrodd ac ystadegol.
Demograffeg a CCH2000
Mae CCH2000 hefyd yn darparu gwybodaeth demographig amser gwirioneddol i Sgrinio Clyw Babanod Cymru, Cymru gyfan.
Hefyd, mae’r system Iechyd Plant yn cynnig natur ymarferol, gan gynnwys Cofrestru Unigol ac
· Integreiddio gyda’r PDS (Gwasanaeth Demograffeg Cleifion) yn Lloegr
· Olrhain natur ymarferol gydag WDS (Gwasanaeth Demograffeg Cymru) gyda’r bwriad o integreiddio’n llawn erbyn diwedd 2011
Yng ngogledd-orllewin Lloegr a chanolbarth-gorllewin Lloegr
Mae’r system hefyd yn ffurfio rhan o CSC (Corfforaeth Cyfrifiadureg) Darparwr Gwasanaeth Lleol sy’n cael ei gynnig yn ardaloedd gogledd-orllewin a chanolbarth-gorllewin Lloegr. Mae’r system hon yn cael ei hadnabod fel y system CSC-HSW ac mae’n cael ei defnyddio gan 15 o safleoedd yn Lloegr.
Datblygu’r feddalwedd
Mae CCH2000 yn datblygu’n barhaus, sy’n cynnwys bwydo i mewn unrhyw newidiadau i frechlynnau plant newydd. Mae grŵp defnyddwyr hefyd, lle mae newidiadau yn cael trafod a’u blaenoriaethu gyda defnyddwyr allweddol.