A ydych chi eisiau gwybod beth sy’n digwydd ynghylch Technoleg Gwybodaeth i nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru?
Egwyddorion y strategaeth ymgysylltu â Nyrsys
Mae egwyddorion penodol y mae’r fframwaith yn ceisio mynd i’r afael â nhw:
Dylanwadu - Bydd sicrhau bod gan y proffesiwn nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru gyfle i effeithio ar ddylunio a phrofi dulliau technolegol newydd yn gynnar yn y broses yn gofyn am ymgysylltiad ar lefel genedlaethol a lleol.
Gwrando - Mae barn nyrsys a bydwreigiaid ynglŷn â buddion posibl a chymhwyso technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) i wella darpariaeth gofal yn sylfaenol bwysig. Bydd diffinio’r ffyrdd mwyaf priodol o gael safbwyntiau nyrsys o bob disgyblaeth ac ar bob lefel o fewn sefydliadau yn ffurfio elfen allweddol o weithredu’r strategaeth.
Gwerthuso - Bydd mesur effeithiolrwydd y broses ymgysylltu yn erbyn canlyniadau dymunol yn galw am gasglu gwybodaeth ystyrlon. Wedyn, bydd y gwersi a ddysgir o’r ymagwedd reoledig at werthuso yn cael eu defnyddio i lywio gwelliannau cynaliadwy i’r gwasanaeth.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.