Sut galla’ i ragnodi a rheoli meddyginiaethau?

 

 

 

 

Rheoli Meddyginiaethau

  

Trosglwyddo Presgripsiynau yn Electronig

 

Gwasanaeth Rhybuddion Electronig y GIG

 

Porthol Clinigol Cymru -  yn galluogi fferyllwyr i gynnal cofnodion meddyginiaethau mwy cywir

 

Dolenni cysylltiedig

System Fferylliaeth Ysbytai

 

E-ryddhau o ysbytai

Mae system fformiwlari newydd i staff ganfod meddyginaethau sy’n cael eu cymeradwyo yn eu sefydliad lleol ar gyfer rhagnodi diogel ac effeithiol yn cael ei threialu ledled Cymru.

Mae’r fformiwlari  yn system leol i staff chwilio’n hawdd am wybodaeth am gyffuriau sy’n cael eu cymeradwyo gan eu Pwyllgorau Meddyginiaethau a Therapiwteg Lleol. Mae’r treial yn cael ei gynnal ym Myrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf ac Aneurin Bevan a bydd Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Betsi Cadwaladr yn ymuno maes o law.

Mae’r systemau fformiwlari lleol yn cysylltu â gwybodaeth o Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, NICE, y Canllaw i Feddyginiaethau i’w Chwistrellu a chanllawiau rhagnodi lleol.

Mae trefn fformiwlari lleol pob Bwrdd Iechyd wedi’i seilio ar Fformiwlari Cenedlaethol Prydain. Mae’n cynnwys penodau sy’n cyfateb i Fformiwlari Cenedlaethol Prydain fel y bydd defnyddwyr yn gyfarwydd â sut mae’n gweithio. Mae wedi’i seilio ar system a ddatblygwyd gan Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain, o’r enw Inform, ac mae’n cael ei datblygu gyda gwybodaeth leol sy’n berthnasol i’r Byrddau Iechyd sy’n ei threialu.

Pam mae angen y system fformiwlari hon arnom?

Bydd defnyddio Inform yn caniatáu i staff deipio enw’r cyffur maent yn chwilio amdano, ac os nad yw yn fformiwlari y sefydliad lleol, mae’n dweud wrthynt am hynny ac yn eu cyfeirio’n ôl at yr adran lle mae dewisiadau eraill ar gael. Bydd y fformiwlari’n rhoi’r cyngor gorau ar gyffuriau dewis cyntaf ac ail ddewis mewn fformat chwilio sy’n gyflym ac yn hawdd.

Yn y dyfodol, bydd y fformiwlarïau lleol yn gweithio gyda rhan Trosi a Gollwng Meddyginiaethau (MTED) Porth Clinigol Cymru. Bydd hyn yn arwain at staff yn dewis meddyginiaethau sydd wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio’n lleol wrth chwilio am feddyginiaethau ar gyfer triniaeth yn yr ysbyty neu wrth anfon claf adref o’r ysbyty.

Mae pob pennawd yn y fformiwlarïau lleol yn destun adolygu parhaus gan glinigwyr a fferyllwyr ar draws eu Bwrdd Iechyd. Bydd y fformiwlarïau’n cynnwys yr holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud am gyffuriau gan y Pwyllgor Meddyginiaethau a Therapiwteg ar ran ardal. Caiff y system fformiwlari ei diweddaru ar-lein gan staff proffesiynol sy’n cefnogi Pwyllgorau Meddyginiaethau a Therapiwteg lleol.

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 16 Mawrth 2012
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com