Mae e-ddysgu wrth graidd y ffordd yr ydym yn datblygu sgiliau Gwybodeg Iechyd yn GIG Cymru, ac mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi staff mewn meysydd eraill.
Mewn partneriaeth ag Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (AGAAGI) yng Nghymru – mae NWIS yn darparu llwyfan e-ddysgu – o’r enw Moodle (www.mle.wales.nhs.uk Gwefan Saesneg).
Gyda dros 70 o gyrsiau, rhai mewn partneriaeth â’r sector addysg a Chynulliad Cymru, mae 'Moodle' yn rhoi ffordd i GIG Cymru hyfforddi staff gan ddefnyddio adnoddau ar-lein.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am MOODLE, cysylltwch â nwisenquiries@wales.nhs.uk
Dolenni cysylltiedig
e-lyfrgell GIG Cymru (Gwefan Saesneg)