Prosiectau yn manteisio ar grantiau Cymru o Blaid Affrica

14 Awst 2012, Llywodraeth Cymru

Bydd staff y GIG o bob cwr o Gymru yn gweithio i wella iechyd rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig yn Affrica, diolch i grant o £10,000 gan Lywodraeth Cymru.
 

Dyfarnwyd arian i ddeg prosiect sydd â chysylltiadau ag ysbytai ledled Cymru yn rownd ddiweddaraf y Cynllun Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica, a lansiwyd yn 2006.  

Un o’r prosiectau yma yw’r cyswllt rhwng Sierra Leone a Chanolfan Ganser Felindre, sy’n darparu triniaeth ar gyfer Lymffoma Burkitt, math o ganser y gellir ei drin sy’n achosi marwolaeth nifer o blant yno. Un arall yw’r prosiect Cyswllt Ethiopia, ble bydd staff o Ysbyty Glan Clwyd yn helpu i hyfforddi staff gofal iechyd yn Ysbyty Hossana yng nghanolbarth Ethiopia.  

Dywedodd Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd:

“Mae’r holl brosiectau yn cyfrannu at Nodau Datblygu’r Mileniwm, sef sicrhau bod llai o blant yn marw, gwella iechyd mamau a brwydro yn erbyn HIV/AIDS, malaria ac afiechydon eraill.  

“Fydd miloedd o bobl sy'n ymwneud ar  prosiectau dan sylw yn elwa’n aruthrol o arbenigedd ac ymrwymiad staff gofal iechyd proffesiynol o Gymru. Mae ymhell dros 500 o bobl wedi rhoi eu hamser a’u harbenigedd, o’u gwirfodd, i gefnogi’r cynllun Cymru o Blaid Affrica. Rwy’n credu bod ein staff ninnau hefyd yn cael budd mawr o gymryd rhan, o ran datblygiad proffesiynol, arweiniad a meithrin timau.”