Dweud eich dweud am wasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol 

09 Chwefror 2012, Llywodraeth Cymru

Mae'r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, wedi lansio ymgynghoriad ar sut i gryfhau gwasanaethau Cymraeg er mwyn bodloni anghenion gofal siaradwyr Cymraeg, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Mae’r Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn cael ei lansio ym Meddygfa Canna yng Nghaerdydd, meddygfa sy’n cydnabod fod darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o ofal i lawer o siaradwyr Cymraeg.
Er mwyn llywio datblygiad y fframwaith strategol, comisiynwyd ymchwil i brofiadau siaradwyr Cymraeg o wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi rhoi cipolwg gwerthfawr am ddisgwyliadau a phrofiadau Cymry Cymraeg o’r gwasanaethau.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn a sylwadau pobl ar y cynigion.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Dim ond trwy gyfrwng y Gymraeg y gall llawer o siaradwyr Cymraeg fynegi eu hanghenion gofal yn effeithiol. Er enghraifft, mae pobl sy’n dioddef o ddementia a phobl sydd wedi cael strôc yn aml yn colli eu gafael ar eu hail iaith. Dim ond eu mamiaith mae plant o dan bump yn aml yn ei siarad.
“Nod y fframwaith yw gwella ansawdd gofal drwy sicrhau fod y sawl sy’n darparu gwasanaethau yn cydnabod mai nhw sy’n gyfrifol am ymateb i angen neu ddymuniad pobl i dderbyn eu gofal yn Gymraeg.
“Rydym hefyd am i bobl ddeall yn well fod iaith yn rhan annatod o angen gofal i lawer o siaradwyr Cymraeg, yn hytrach nag opsiwn ychwanegol. Rydym am sicrhau fod defnyddwyr a’u teuluoedd yn teimlo eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg pan eu bod yn cael eu hasesu ac yn derbyn triniaeth neu ofal.
“Mae’r fframwaith hwn yn gam allweddol i gryfhau nid yn unig lles corfforol a meddyliol siaradwyr Cymraeg sydd angen defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd eu lles emosiynol. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn ac i leisio’u barn.”
Dywedodd Dr Bethan Herbert o Feddygfa Canna:
“Mae gennym nifer o gleifion sydd yn dewis siarad Cymraeg â ni. Teimlaf ei fod yn bwysig iawn fod y ddarpariaeth yma ar gael.  Rydym yn ffodus fod tri o’r meddygon yma yn medru cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae’n arbennig o bwysig wrth ofalu am blant bach, yr henoed a phobl a chyflyrau megis stroc a dementia. Ond  wrth gwrs mae hefyd yn bwysig fod pawb yn cael cyfle i gael gwasanaeth yn eu hiaith dewisiedig boent yn Gymry Cymraeg neu’n ddysgwyr."
| Archif newyddion >