Llywodraeth Cynulliad Cymru
Adnoddau Atodol
Gyrfaoedd
Pam dewis gyrfa â GIG Cymru?
Rydym yn gyflogydd fwyaf yng Nghymru gyda 82816 staff yn gyflogedig yn uniongyrchol yn 2008 (Ffynhonnell: Stats Cymru).
Gall y gwasanaeth iechyd yng Nghymru cynnig dros 200 o gyfleoedd gyrfa yn cynnwys popeth o fferyllwyr i barafeddygon, gynecolegwyr i beirianyddion clinigol, bydwragedd i radiograffyddion. Neu efallai bydd gennych fwy o ddiddordeb mewn un o’r gwasanaethau cymorth fel gweinyddol a clerigol, stadau, rheolaeth cyffredinol/ariannol, arlwyo, hybu cartrefol neu iechyd.
Pa bynnag sgiliau, profiadau a chymwysterau sydd gennych gall y GIG cynnig gyrfa gyffrous a gwobrwyol i chi.
Gwybodaeth Pellach
Mae’r Asiantaeth Arweinyddiaeth a Newyddbeth Cenedlaethol am Ofal Iechyd (NLIAH) yn cefnogi GIG Cymru gyda datblygiad ac arweinyddiaeth gweithlu i alluogi i ni ddarparu gofal iechyd rhagorol. Datblygwyd NLIAH gwefan Gyrfaoedd GIG Cymru yn cynnig gwybodaeth ar swyddogaethau GIG amrywiol, y Rhaglen Dychwelyd i Bractis, gyrfaoedd i’r bobl gyda’r cymwysterau yn barod, yn ogystal â chyngor ar gyllido/cyflog, a gwybodaeth am gynghorwyr gyrfaoedd, athrawon a myfyrwyr rhyngwladol.
