Galw Iechyd Cymru
Gwasanaeth Ymholiad ar-lein Galw Iechyd Cymru
Mae gwasanaeth ymholiad ar lein Galw Iechyd Cymru bellach ar gael yn y Gymraeg. Mae’r gwasanaeth ymholiad ar lein ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru yn www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk a gallwch ofyn cwestiwn ar amrywiaeth eang o destunau cyffredinol cysylltiedig â iechyd gan gynnwys cyflyrau cyffredin fel brech yr ieir, gwasanaethau GIG lleol, hawliau cleifion a byw yn iach. Mae Arbenigwyr Gwybodaeth Iechyd profiadol yn ateb yr ymholiadau trwy e-bost gan ddefnyddio gwybodaeth o ansawdd uchel a nawr gallwch ddewis cael ateb i’ch ymholiad yn y Gymraeg neu’r Saesneg.Mae Galw Iechyd Cymru yn wasanaeth cyngor a gwybodaeth iechyd 24 awr sy’n arwyddbostio pobl Cymru i’r lefel mwyaf priodol o ofal iechyd i’w hanghenion. Rydym yn cynnig cyngor a gwybodaeth iechyd fel y gall pobl ofalu am eu hunain a’u teulu, ddydd neu nos.
Mae’r llinell gymorth dros y ffôn 0845 46 47 ar gael 24 awr y dydd. Gallwch ffonio am wasanaeth nyrs sy’n blaenoriaethu a chyngor os ydych yn teimlo’n sâl a ddim yn siŵr beth i’w wneud neu am wybodaeth iechyd ar gyflwr arbennig fel diabetes neu asthma. Gall Arbenigwyr Iechyd hefyd gynnig gwybodaeth sy’n berthnasol i ble’r ydych yn byw fel y meddyg, fferyllydd, deintydd neu’r grŵp cefnogi agosaf yn ogystal â gwybodaeth ar eich hawliau fel claf, amseroedd rhestrau aros ac unrhyw fudd-daliadau sydd ar gael i chi.
Gwefan Galw Iechyd Cymru yw porth gwybodaeth iechyd defnyddwyr Cymru www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk ac mae’n cynnig mynediad i wybodaeth, gan gynnwys chwiliadau Cymru gyfan ar argaeledd deintydd, oriau agor fferyllfeydd sy’n agored yn hwyr a manylion cyswllt grwpiau hunan gymorth.
Gall Galw Iechyd Cymru helpu i gael yr wybodaeth iawn ar yr amser iawn ac yn y lle iawn.
Codir tâl am alwadau i 0845 46 47 ar raddfa leol.