Gwarchod Iechyd


Edrych ar ol diddordebau/ lles y cyhoedd yn y GIG


Cynghorau Iechyd Cymuned

Os ydych yn chwilio am wybodaeth ynglun a'r GIG a'i chyfundrefnau, neu help a chyngor rhad ac am ddim gyda phroblem yr ydych wedi dod ar draws gyda'r GIG, felly pam na wnewch chi ymweld a gwefan Cymdeithas Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru ar www.patienthelp.wales.nhs.uk

Cynghorau Iechyd Cymuned yw'r unig gyfundrefn statudol lleyg sydd a'r hawliau am wybodaeth ynglun â, mynediad i ag ymgynghoriad hefo holl drefniadaethau'r GIG.

Ym mis Ebrill 2004, bydd Cymdeithas Cynghorau Iechyd Cymunedau Cymru yn trosglwyddo i gorff uniongyrchol a'u henw newydd fydd Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru. Yn ystod yr un amser, bydd y CIC yn cael pwerau ychwanegol i arolygu pob gwasanaeth gofal cynradd ac i ymweld â adeiladau meddygon teuluol, deintyddion, optegwyr a fferyllyddion yn ogystal â chartrefi gofal preifat.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog cyfundrefnau GIG i ymglymu y cleifion a'r cyhoedd ynglun a phenderfyniadau am newidiadau a gwellhad i ofal iechyd a mae'r CICs wedi eu awdurdodi i arolygu sut mae'n cael ei wneud, ac os bydd angen, eu helpu.



Gwneud awgrymiadau a chwynion

A oes gennych chi awgrymiadau sut y gallwn gynnig gwasanaeth gwell? Bydd eich awgrymiadau, canmoliaeth neu gwynion yn ein helpu i wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Am fwy o wybodaeth lawrlwythwch ein pamffled Cwynion ynghylch Triniaeth a gofal yn y GIG Gwneud awgrymiadau a chwynion.


Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Diben AGIC yw hybu gwelliant parhaus o ran ansawdd a diogelwch gofal cleifion yn GIG Cymru. Wrth ymateb i'r bwriad hwn, rôl AGIC yw cynnal arolygiadau ac ymchwiliadau i'r ffordd mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu gan gyrff y GIG yng Nghymru ac ar eu cyfer.



Ombwdsman y Gwasanaeth Iechyd

Mae Ombwdsman y Gwasanaeth Iechyd yn archwilio i gwynion a wnaed gan bobl, neu ar ran rhywun a ddioddefodd wasanaeth anfoddhaol gan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG). Mae Ombwdsman y Gwasanaeth Iechyd yn llwyr annibynnol o'r GIG a'r llywodraeth. Mae gwasanaethau Ombwdsman y Gwasanaeth Iechyd am ddim.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Ombwdsman y Gwasanaeth Iechyd


Cysylltiadau Perthnasol: Gwefan Ynglymiad y Cyhoedd a Chleifion