Strwythur

jigsawMae newidiadau mawr yn cael eu gwneud i’r GIG yng Nghymru yn 2009 er mwyn ei alluogi i gyflwyno gofal iechyd gwell i boblogaeth Cymru yn y 21ain ganrif.
 

Pam rydym yn newid?

Pennodd dogfen Strategaeth Cymru’n Un fod yn rhaid i ni ailgynllunio cyflwyno’r GIG yng Nghymru, er mwyn gwella canlyniadau iechyd a sicrhau bod y GIG yn cyflwyno gofal effeithiol gyda’i bartneriaid.
Poblogaeth gynyddol hŷn, mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau cronig, heriau wrth ddarparu gwasanaethau amserol, effeithiol a chydlynus mewn lleoliadau gwledig, cyfraddau gordewdra uwch a lefelau gweithgaredd corfforol isel, targedau gwasanaeth a hinsawdd ariannol heriol, yw rhai o’r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu.
 
Mae angen i ni ddarparu mwy o ofal yn agosach at gartrefi pobl a mwy o raglenni hunan-ofal i helpu pobl i fyw bywydau mwy annibynnol, darparu gwasanaethau mwy cydlynus rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a chanolbwyntio’n gynyddol ar iechyd y cyhoedd, creu gwasanaeth llesol yn hytrach na gwasanaeth salwch.  Mae’n golygu symud cydbwysedd gofal, gan edrych ar systemau cyfan yn hytrach nag ysbytai yn unig. Ceir pwyslais cryf ar iechyd y cyhoedd a chynllunio hirdymor. (Ffynhonnell: Y GIG yng Nghymru: Pam rydym yn newid y strwythur. Llywodraeth Cynulliad Cymru Hydref 2009)
Mae ad-drefnu GIG Cymru, a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2009, wedi creu sefydliadau iechyd lleol unigol sy’n gyfrifol am gyflwyno’r holl wasanaethau gofal iechyd mewn ardal ddaearyddol, yn hytrach na’r system Ymddiriedolaeth a Bwrdd Iechyd Lleol oedd yn bodoli cyn hynny. (Ffynohnnell: Diwygio GIG Cymru)
 
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Diwygio GIG Cymru.
Mae’r GIG bellach yn cyflwyno gwasanaethau trwy saith Bwrdd Iechyd Lleol a thri Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru.  
 

Byrddau IechydByrddau Iechyd


Ymddiriedolaethau’r GIG

Mae’r saith Bwrdd Iechyd Lleol (BILlau) yng Nghymru bellach yn cynllunio, yn sicrhau ac yn cyflwyno gwasanaethau gofal iechyd yn eu hardaloedd, gan ddisodli’r 22 BILlau a’r 7 Ymddiriedolaeth GIG oedd, gyda’i gilydd, yn cyflawni’r swyddogaethau hyn yn y gorffennol.
Mae’r BILlau newydd yn atebol i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
 
Mae mwy o fanylion am Ymddiriedolaethau GIG presennol a’u lleoliadau ar gael ar dudalen Cyfeirlyfr Gwasanaethau GIG Cymru isod:

 

Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Unedig

Ceir bellach Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Unedig yng Nghymru sy’n gweithredu fel Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. 
Daeth yr Ymddiriedolaeth newydd yn gwbl weithredol ar 1 Hydref 2009 ac mae’n ymarfer swyddogaethau’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Canolfan Iechyd Cymru, Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru, Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid Cymru, a Gwasanaethau Sgrinio Cymru gyda chylch gorchwyl cenedlaethol.
 

Bwrdd Cynghori Cenedlaethol


O fis Ebrill 2009, mae’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol wedi bod yn gyfrifol am roi cyngor annibynnol i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r Bwrdd yn cynorthwyo i gyflawni swyddogaethau’r Gweinidog, a bodloni atebolrwydd y Gweinidog o ran perfformiad y GIG yng Nghymru.

Grŵp Cyflawni Cenedlaethol

Prif Weithredwr GIG Cymru sy’n gyfrifol am roi cyngor polisi i’r Gweinidog ac am ymarfer arweinyddiaeth strategol a rheoli’r GIG. I gefnogi’r rôl hon, bydd y Prif Weithredwr yn cadeirio Grŵp Cyflawni Cenedlaethol, gan ffurfio rhan o’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (AIGC).
Mae’r grŵp hwn yn gyfrifol am oruchwylio datblygu a chyflwyno gwasanaethau’r GIG ar draws Cymru.
  •  Grŵp Cyflawni Cenedlaethol

Cynghorau Iechyd Cymuned

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd yn y gwasanaeth iechyd yn eu dosbarth nhw. Maent yn rhoi llais annibynnol i bobl yn eu GIG lleol a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu. Bydd nifer y CICau yn gostwng i 7 i gyd-fynd â’r Byrddau Iechyd Lleol newydd arfaethedig. Bydd y 7 CICau newydd yn cael eu hategu gan 23 o gymdeithasau ardal â chysylltiadau cadarn.
 
 

Comisiwn Iechyd Cymru

Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y ffordd y gallai swyddogaethau Comisiwn Iechyd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn comisiynu gwasanaethau trydyddol ar draws Cymru, gael eu hailffurfio.
 

Gwasanaethau canser a brys

Bydd y ddwy Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau arbenigol ar draws Cymru – Ymddiriedolaeth GIG Felindre (gwasanaethau canser) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (gwasanaethau brys) yn parhau.
 

Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH) 

Cafodd yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH) ei lansio ym mis Mawrth 2005. Ei diben yw darparu adnodd strategol cenedlaethol i gefnogi GIG Cymru wrth gyflwyno agenda Cynllun Oes trwy adeiladu cymhwyster a gallu arweinyddiaeth i sicrhau gwella gwasanaethau yn barhaus wedi ei ategu gan dechnoleg, arloesi a meddylfryd ac arfer gorau o’r radd flaenaf.