Gwerthoedd GIG Cymru

Dyma'r gwerthoedd creiddiol sy'n sail i'r GIG yng Nghymru:
  • Rhoi ansawdd a diogelwch uwchlaw popeth: darparu gofal gwerth uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ein cleifion bob amser.
  • Integreiddio gwelliant yn ein gwaith bob dydd a dileu niwed, gwahaniaethu a gwastraff.
  • Canolbwyntio ar atal, gwella iechyd ac anghydraddoleb er mwyn hyrwyddo datblygu cynaliadwy, iechyd a lles ymhlith pobl Cymru a phlant eu plant.
  • Gweithio mewn partneriaethau go iawn â sefydliadau eraill a'n staff.
  • Buddsoddi yn ein staff drwy eu hyfforddi a'u datblygu, gan ei gwneud yn bosibl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau a rhoi'r adnoddau, y systemau a'r amgylchedd iddynt weithio'n ddiogel ac yn effeithiol.