Help gyda chostau iechyd

NHS Charges WelshPolisi cyfredol

Mae’r rhan fwyaf o driniaethau’r GIG ar gael yn rhad ac am ddim, er y gall tâl gael ei godi am rai pethau. Er enghraifft y mae'n bosibl y cewch chi gymorth gyda chost y canlynol os ydych ar incwm isel.

  • Triniaeth ddeintyddol y GIG
  • Profion golwg
  • Sbectol a lensys cyffwrdd
  • Costau teithio angenrheidiol i’r ysbyty ac oddi yno am driniaeth y GIG o dan ofal ymgynghorydd ysbyty.

Seilir yr hawl i gymorth â costau iechyd (taliadau presgripsiwn a deintyddol y GIG, costau optegol a chostau teithio i'r ysbyty) ar yr egwyddor y dylai'r sawl a all fforddio cyfrannu wneud hynny, ond y dylid gwarchod y sawl sy'n debygol o'i chael yn anodd talu.
Ceir rhestr o'r taliadau cyfredol yn HC12W 'Ffioedd a gwerth talebau optegol'.

Pwy all gael cymorth

Gall pobl gael cymorth ar sail oedran neu am resymau meddygol neu trwy fod yn derbyn un o'r budd-daliadau neu'r credydau treth sy'n eithrio.
Am ragor o wybodaeth: HC11W  Help gyda chostau iechyd'.


Incwm isel?

Mae'n bosibl y gall pobl sy'n gorfod talu taliadau'r GIG gael cymorth dan Gynllun Incwm Isel y GIG. Seilir faint o gymorth a geir ar gymhariaeth rhwng incwm unigolyn a'r gofynion pan wneir hawliad neu pan dalwyd taliad. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y we dudalen Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG isod:

Sut mae gwneud hawliad incwm isel?

Mae angen ichi lenwi ffurflen HC1 - ni ellir lawrlwytho'r ffurflen hon o'r we. Rhaid ichi gael gafael ar gopi caled. Dylai ffurflenni HC1 fod ar gael mewn swyddfeydd Nawdd Cymdeithasol ac yn ysbytai'r GIG. Efallai y bydd gan rai meddygon teulu, deintyddion ac optegwyr gopïau hefyd.

Wedi ichi lenwi'r HC1 dylech ei hanfon i'r: Health Benefits Division, Sandyford House, Newcastle upon Tyne, NE2 1DB - yn yr amlen ragdaledig a ddarperir.