Y 1970au

Daeth y System Deir-Ran i ben ym 1974, a gwnaed ymdrech i ddod â’r holl wasanaethau iechyd ynghyd dan un ambrelo trefniadol. Sefydlwyd Awdurdodau Iechyd Ardal (AIAau / AHAs) i gymryd cyfrifoldeb am weithredu gwasanaethau ysbyty a chymunedol o ddwylo’r byrddau ysbyty a’r awdurdodau lleol. Parhâi gwasanaethau gofal sylfaenol  a ddarperid gan gytundebwyr annibynnol y tu allan i reolaeth yr AHAs, a disodlwyd y Cynghorau Gweithredol gan Bwyllgorau Meddygon Teulu (BMTau/FPCs) a barhaodd i weinyddu cytundebau MTon, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr. Yn ogystal yr oedd gan Loegr Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol (AIRau/RHAs), ac yr oedd y cyfrifoldeb gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol (DHSS). Yng Nghymru yr oedd gan y Swyddfa Gymreig gyfrifoldebau adrannol ar lefel llywodraeth ranbarthol a chanolog, dan reolaeth wleidyddol Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Rhannwyd y rhan fwyaf o’r AHAs yn ddosbarthiadau, a weithredid gan dîm rheoli dosbarth ar sail rheolaeth trwy gonsensws. Golygai hyn fod angen i aelodau o’r tîm, gan gynnwys meddyg meddygol, nyrs a gweinyddydd, reoli yn unol ag egwyddorion cydsyniad cyffredin. 

Sefydlwyd Cynghorau Iechyd Cymunedol (CICau/CHCs) hefyd ar yr un adeg, a chanddynt y nod o gynrychioli safbwyntiau’r cyhoedd.

Yn ystod y 1970au hefyd gwelwyd terfyn yr optimistiaeth economaidd a oedd wedi nodweddu’r 1960au, a dwysaodd y pwysau o blaid gostwng y maint o arian a oedd yn cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus a sicrhau cynnydd mewn effeithioldeb o ran yr hyn a oedd yn cael ei wario.