Y 1950au

Hospital1950sPan sefydlwyd y GIG yn wreiddiol, y dybiaeth oedd y byddai’r galw am wasanaethau iechyd yn gostwng, unwaith yr oedd y rhai nad oeddent wedi gallu cyrchu triniaeth cyn dyfodiad y GIG wedi cael eu trin. Ond yn wir, fel arall y bu’n llwyr, a daliodd y galw i gynyddu, a golygai hyn yn ei dro fod rhaid i wariant ar y GIG gynyddu hefyd.  Y gobaith gwreiddiol, adeg sefydlu’r GIG, oedd y gellid gwario llai ar wasanaethau iechyd yn y pen draw wrth i bobl ddod yn fwyfwy iach.

Erbyn y 1950au yr oedd gwariant ar y GIG yn uwch o lawer na’r hyn yr oedd y Senedd a’r Trysorlys wedi’i ddisgwyl. Ym 1949 fe basiodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth fyddai’n gadael iddi godi tâl am bresgripsiynau, ac ym 1951 sefydlwyd taliadau am ofal deintyddol ac optegol. Cyflwynwyd taliadau am bresgripsiynau o’r diwedd ym 1952. 

Ym 1953 sefydlodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd bwyllgor i archwilio’r costau cynyddol hyn – sef Pwyllgor Ymchwilio Guillebaud. Canfu’r Pwyllgor mai diffyg adnoddau yn wir oedd y ffactor allweddol, a daeth i’r casgliad y dylid dosrannu mwy o gyllid i’r GIG. Teimlai’r Pwyllgor yn ogystal fod y strwythur deir-ran yn cyfrannu hefyd at anawsterau’r GIG yn y cyfnod hwnnw.

Er gwaethaf yr anawsterau hyn fe welwyd yn ystod y 1950au ail-gynllunio mwy rhesymegol ar wasanaethau ysbyty, a aeth i’r afael i raddau â’r bylchau a’r dyblygu afraid a fodolai ar draws Lloegr a Chymru. Tyfodd y nifer o staff meddygol hefyd yn ystod y cyfnod hwn, ac ar yr un pryd cawsant eu dosbarthu mewn modd mwy cytbwys wrth i wasanaethau cleifion allanol gael eu datblygu gan ysbytai. Yn ogystal fe newidiodd Deddf Iechyd Meddwl 1959 yn sylweddol y ddeddfwriaeth ynghylch iechyd meddwl a chyfyngu ar yr amgylchiadau a gyfiawnhâi anfon rhywun yn orfodol i ysbyty’r meddwl a’i gadw yn erbyn ei ewyllys.