Cysylltiadau allanol

2000+

Argymhellodd “Gwella Iechyd yng Nghymru – Cynllun i’r GIG gyda’i Bartneriaid” (2001) strwythurau newydd a newidiadau sefydliadol i’r GIG yng Nghymru.  Datblygwyd y strwythur i gwrdd â’r egwyddorion canlynol:

  • Symlach i’r cleifion ei ddeall
  • Atebol am ei weithrediadau ac am y gwasanaeth a ddarperir ganddo
  • Llais democrataidd cryfach yn y ffordd y mae’n cael ei lywodraethu

Diddymwyd y 5 Awdurdod Iechyd yng Nghymru yn y strwythur newydd hon. Cyfansoddion allweddol y strwythur bresennol yw:

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ar Wyl Ddewi 2004, fel rhan o’r ymrwymiad i waith partneriaeth ar bob lefel, sefydlwyd Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd fel rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Ann Lloyd yw Pennaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd a Phrif Weithredydd GIG Cymru.

Swyddfeydd Rhanbarthol

Tair Swyddfa Ranbarthol, dan arweiniad Cyfarwyddwyr Rhanbarthol sy’n gweithredu fel asiantiaid i Brif Weithredydd GIG Cymru o ddydd i ddydd, gan ddal i gyfrif Brif Weithredwyr y 36 o gyrff statudol y GIG a rheoli perfformiad y cyrff GIG hynny.

Asiantaeth Genedlaethol Arweiniad ac Arloesoldeb dros Ofal Iechyd (AGAAOI)

Lansiwyd yr AGAAOI (neu’r Asiantaeth) yn ffurfiol ym mis Mawrth 2005. Amcan yr Asiantaeth yw darparu adnodd strategol cenedlaethol fydd yn cynorthwyo GIG Cymru i gyflawni agenda ‘Cynllun Oes’ trwy adeiladu gallu a galluedd gweithredol ei arweinwyr gyda golwg ar sicrhau gwelliant parhaus yn y gwasanaethau wedi’i danategu gan dechnoleg, arloesedd, syniadaeth reng flaen a’r arferion gorau. 

Comisiwn Iechyd Cymru (Gwasanaethau Arbenigol)

Mae’r asiantaeth “hyd braich” hon yn darparu cyngor ynghylch comisiynu gwasanaethau eilaidd a rhanbarthol arbenigol. Yn ogystal mae’r Comisiwn yn cynnig cyfarwyddyd a chymorth ar gyfer comisiynu gwasanaethau gofal aciwt, a bwriedir iddo fod yn brif ffynhonnell ar gyfer cyngor a chyfarwyddyd annibynnol yng nghyswllt materion comisiynu y mae’n rhaid eu datrys neu’u penderfynu.

Y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (GICC / NPHS) a Chanolfan Cymru dros Iechyd (CCI / WCH) 

Mae’r GICC yn cyfuno’r rhan fwyaf o’r swyddogaethau ym maes iechyd cyhoeddus a gyflawnid o’r blaen gan yr Awdurdodau Iechyd. Mae’n darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol am iechyd ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol yn bennaf, ac mae wedi’i strwythuro o gwmpas y tair swyddfa ranbarthol, sydd â chyfarwyddydd iechyd cyhoeddus rhanbarthol yr un. Mae CCI yn gysylltiedig yn glòs â’r gwaith yng nghyswllt iechyd cyhoeddus. Mae’n ganolfan annibynnol ar gyfer cyngor, gwybodaeth, ymchwil a datblygiad aml-broffesiynol yng nghyswllt iechyd cyhoeddus

Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) 

Mae yna 21 o fyrddau iechyd lleol, ac un bwrdd gofal iechyd unedig, y mae pob un ohonynt yn gydffiniol ag ardaloedd yr awdurdodau llywodraeth leol unedol.  Prif rolau’r BILlau yw llywodraethedd corfforaethol a chlinigol; sicrhau a darparu gwasanaethau iechyd gofal sylfaenol a chymunedol; sicrhau gwasanaethau gofal eilaidd; gwella iechyd cymunedau; partneriaeth; hybu cyfranogaeth y cyhoedd; darparu gwasanaethau. Yn y tymor byr cefnogir y BILlau gan Ganolfan Gwasanaethau Busnes (CGB/BSC) a reolir gan BILl Powys, sy’n darparu gwasanaethau ariannol, adnoddau dynol, gwybodaeth reolaethol a thechnoleg gyfrifiadurol, ynghyd â chymorth i ystadau a chaffaeliad.

Ymddiriedolaethau GIG    

Nid effeithiodd newidiadau strwythurol 2001 ar Ymddiriedolaethau’r GIG, ar wahân i Bowys. Disgwylir serch hynny y byddant yn cydweithio’n glòs â’r BILlau, yr awdurdodau lleol ac eraill. Mae yna 13 o Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru sy’n darparu rhychwant o wasanaethau y mae eu rôl yn cwmpasu darparu gwasanaethau iechyd a chymunedol; adeiladu partneriaethau; datblygiad sefydliadol, a hybu cyfranogaeth y cyhoedd. Cyfennir y 13 o Ymddiriedolaethau integredig gan un Ymddiriedolaeth Ambiwlans genedlaethol ar gyfer Cymru Gyfan.

Cynghorau Iechyd Cymunedol (CICau / CHCs)

Mae CHC ym mhob un o’r ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, ac maent yn gweithredu ynghylch rhychwant eang o faterion iechyd ar ran y cyhoedd.

“Arolwg ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru” (2003)                 

Yn dilyn ei waith ar gyfer y Trysorlys, “Securing Our Future Health”, penodwyd Derek Wanless gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i archwilio sut dylid defnyddio adnoddau i hyrwyddo diwygiadau a gwell perfformiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Adroddodd Wanless yn 2003, gan osod agenda heriol ger bron GIG Cymru yng nghyswllt datblygiad ei wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Prif argymhellion yr adroddiad oedd:

  • Yr angen i adgynllunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd radicalaidd
  • Ymagwedd gadarn, wedi’i seilio ar dystiolaeth, at ledaenu’r arferion gorau a gwella perfformiad systemau
  • Yr angen i ddatblygu galluedd gweithredol y tu allan i gyd-destun yr ysbytai gofal aciwt
  • Mwy o gyfranogaeth gan y cyhoedd a chleifion
  • Systemau rheoli perfformiad cryfach

Mae i’r cynllun ar gyfer rhoi ‘Adroddiad Wanless’ mewn grym bedair prif thema:

  • Ataliaeth
  • Optimeiddio Darpariaeth Gwasanaethau
  • Hybu Cyfranogaeth Pobl
  • Perfformiad ac Atebolrwydd

Cynllun Oes: strategaeth newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Ym mis Mai 2005 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei strategaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Mae’r strategaeth yn crynhoi gweledigaeth y llywodraeth o drawsnewid y GIG “o’r gwasanaeth afiechyd gwladol sydd ohoni yn wasanaeth iechyd gwirioneddol genedlaethol”. I gyflawni hyn mae’r strategaeth yn amlinellu pa fath o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y gallwn ni eu disgwyl erbyn 2015 ac yn darparu tair strategaeth dair blynedd er mwyn ei wireddu. Tanategir y nod hwn gan dri amcan:

  • Iechyd gydol oes
  • Gwasanaethau cyflym, diogel ac effeithiol
  • Gofal o’r rheng flaenaf

Mae’r strategaeth yn derbyn y daliad nad yw’r ffordd bresennol o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gynaliadwy. Bydd angen newidiadau sylweddol, a’r rheiny yn ôl pob tebyg “ym mhob ysbyty, pob Meddygfa Deulu a phob Adran Gwasanaethau Cymdeithasol”.  Fe ddarperir gwasanaethau yng nghartrefi pobl, neu mor agos atynt ag y gellir. Bydd gwasanaethau ysbyty lleol yn canolbwyntio ar drin mân anafiadau a gwasanaethau meddygol a llawfeddygol lleol. Cyfyngir gwasanaethau gofal critigol ac arbenigol i nifer lai o brif ganolfannau.  Bydd unigolion a chymunedau’n chwarae rôl bwysicach wrth hybu ac amddiffyn eu hiechyd eu hunain. 

Mae’r cerrig milltir moderneiddio canlynol ar gyfer 2006 wedi deillio o’r Cynllun Oes:

  • Sefydlu modelau arweiniad clinigol arloesol newydd
  • Cynnal asesiadau moderneiddio ar draws cymunedau iechyd  
  • Datblygu a chyflwyno proses newydd ar gyfer casglu a lledaenu’r arferion gorau a sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu