Mentrau
Mentrau a rhaglenni iechyd ar draws Cymru
Mae GIG Cymru yn cefnogi ystod eang o fentrau a rhaglenni gofal iechyd ar draws Cymru ar lefel genedlaethol a lleol. Mae’r rhain yn cynnwys adnoddau sy’n hyrwyddo hunan-ofal a ffyrdd iach o fyw ar gyfer pobl ifanc fel Yr Ystafell, trwy wasanaethau rhoi’r gorau i smygu, gwybodaeth a hyfforddiant ar reoli cyflyrau cronig, mentrau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd sy’n ceisio lleihau amserau aros ar gyfer triniaeth, amddiffyn rhag heintiau, lleihau niwed ac achub bywydau.
Mentrau Hybu Iechyd a Hunan-ofal
Her Iechyd Cymru
Cafodd yr ymgyrch hwn ei fabwysiadu fel ffocws cenedlaethol ar gyfer gwella iechyd yng Nghymru. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r angen i bob un ohonom wella ein hiechyd ein hunain a darparu gwybodaeth a chymorth.
Cefnau Cymru
Mae Cefnau Cymru yn fenter ar y cyd a ddatblygwyd mewn ymateb i Her Iechyd Cymru – her y genedl i wella iechyd. Nod Cefnau Cymru yw lleihau’r baich corfforol y mae dwy ran o dair o’r boblogaeth yng Nghymru, a fydd ar ryw adeg yn dioddef poen cefn, yn ei wynebu.
Rhaglen Cleifion Arbenigol Cymru
Mae hon yn rhaglen hyfforddiant wedi ei lleoli yn y GIG sydd yn helpu pobl sydd yn byw gyda chyflyrau cronig, hirdymor i ddatblygu sgiliau newydd i reoli eu cyflwr eu hunain yn well ac felly gwella ansawdd eu bywyd o ddydd i ddydd.
Dim Smygu Cymru
Mae Dim Smygu Cymru yn cynnig cymorth cyfeillgar am ddim i smygwyr sydd yn barod i roi’r gorau iddi.
Mentrau Gofal Sylfaenol
Cynllun Atgyfeirio (gan Feddygon Teulu) i Gael Gofal Llygaid Sylfaenol mewn Achosion Acíwt - PEARS
Diben archwiliad PEARS yw mynd i’r afael ag anghenion y claf sydd â chyflwr acíwt yn ymwneud â’r llygaid h.y. symptomau llygadol sy’n gofyn am sylw brys, os nad ar unwaith.
Ysgol Ymchwil mewn Gofal Sylfaenol Cymru
Mae dogfennau polisi fel Cynllun Oes yn derbyn bod gofal sylfaenol yn ganolog i’r weledigaeth o gyflawni gwasanaethau cynaliadwy, o ansawdd uchel yng Nghymru. Nod y fenter hon yw darparu tystiolaeth ymchwil berthnasol ac effeithiol i danategu datblygiad gwasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel.
Mentrau mewn Gofal Eilaidd
Mynediad 2009
Mae Mynediad 2009 yn fenter sydd wedi ymrwymo i leihau’r amser y mae’n rhaid i gleifion aros am apwyntiadau, profion diagnostig a thriniaeth er mwyn gwella gofal cleifion a chanlyniadau triniaethau.
Ymgyrch 1000 o Fywydau
Nod yr ‘Ymgyrch 1000 o Fywydau’ yw lleihau’r peryglon i ddiogelwch cleifion trwy weithredu ymyriadau sy’n achub bywydau a ddatblygwyd gan glinigwyr yng Nghymru.
Mae’r ymyriadau yn cynnwys rheoli meddyginiaethau yn well, lleihau’r heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a chymhlethdodau llawfeddygol a gwella gofal meddygol a llawfeddygol cyffredinol.
Mae’r ymyriadau yn cynnwys rheoli meddyginiaethau yn well, lleihau’r heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a chymhlethdodau llawfeddygol a gwella gofal meddygol a llawfeddygol cyffredinol.
Rhaglen Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru
Mae tîm WHAIP yn rhoi cyngor a gwybodaeth proffesiynnol annibynnol am heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd i broffesiynolion iechyd yng Nghymru, i Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i bwyllgor cynghori, yr is-grŵp Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, sy’n cael ei oruchwylio gan Brif Swyddog Meddygol Cymru
