Llunio Gwasanaethau yn Lleol
Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd
Mae cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn allweddol i gynllunio’r gwasanaeth iechyd ac mae’n hyrwyddwr da ar gyfer gwella’r gwasanaeth. Gall hefyd arwain at brofiad gwell i’r claf. Gall pobl sy’n defnyddio’r GIG, yn gleifion ac yn ofalwyr, chwarae rhan bwysig yn llunio eu gwasanaeth trwy gymryd rhan mewn ymgynghoriadau lleol. Rydym yn annog adborth ar ansawdd y gofal a’r driniaeth yn ogystal ag amgylchedd y ward, y feddygfa neu’r adran lle’r ydym yn ei derbyn.
Hoffem i gleifion a’r cyhoedd roi gwybod i ni os oes ganddynt bryderon neu argymhellion am wella gwasanaethau.
Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â’ch Bwrdd Iechyd Lleol – mae’r manylion cyswllt ar gael yn y ddolen isod:
- GIG Cymru – Cyfeirlyfr Gwasanaethau (Byrddau Iechyd Lleol)
Adnoddau ar gyfer GIG Cymru
Gwefan ar gyfer pobl sy’n gweithio ar Gynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) yn y GIG yng Nghymru. Ei nod yw gwella mynediad i wybodaeth am PPI yng Nghymru a gweddill y DU. Mae’r Cynulliad wedi creu nifer o ddogfennau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i holl gyrff y GIG yng Nghymru ynglŷn â sut i ddatblygu cynnwys y cleifion a’r cyhoedd er mwyn cyflawni’r weledigaeth 10 mlynedd a amlinellir yng Nghynllun Oes. Mae’r holl gyhoeddiadau pwysig sydd wedi eu creu gan y Cynulliad ar PPI ar gael ar y safle hwn.
