Galw Iechyd Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ein Gwasanaethau
Cyflwynir gofal iechyd yng Nghymru trwy amrywiaeth o ddarparwyr, yn amrywio o Ymddiriedolaethau GIG i fferyllfeydd ac optegwyr cymunedol. Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am y prif fathau o wasanaethau iechyd a gwasanaethau lleol gan y GIG.
Gwasanaethau Meddygon Teulu
Mae practisau meddygon teulu yng Nghymru yn darparu gwasanaethau o dan gontract i Fyrddau Iechyd Lleol. Yn ogystal â rhoi cyngor am iechyd a sawlch, gall meddygon teulu hefyd ddarparu gwasanaethau atal cenhedlu, brechiadau, gwasanaethau mamolaeth a llawdriniaethau bach. Gall rhai practisau ddewis cynnig gwasanaethau eraill fel brechiadau teithio, gofal y digartref neu wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol.
Gwasanaethau Deintyddol
Er 1 Ebrill 2006 mae contractau deintyddol newydd rhwng deintyddion a Byrddau Iechyd Lleol wedi arwain at newidiadau i’r system ddeintyddol yng Nghymru. Nid yw cleifion bellach yn cofrestru gyda deintydd penodol, ond gall deintydd gadw rhestr o gleifion y maent yn rhoi triniaeth ddeintyddol yn rheolaidd iddynt. Gallant hefyd gynnig triniaeth fel claf preifat. Yr unigolyn sy’n penderfynu a ydynt yn derbyn y trefniant hwnnw neu beidio neu’n chwilio am ddeintydd arall sy’n darparu gofal GIG. Mae tri thâl safonol ar gyfer triniaeth GIG.
Nid yw deintyddion bellach yn gyfrifol am ddarparu triniaeth y tu allan i oriau pan fydd y feddygfa ar gau. Cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd Lleol yw hyn bellach.
Nid yw deintyddion bellach yn gyfrifol am ddarparu triniaeth y tu allan i oriau pan fydd y feddygfa ar gau. Cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd Lleol yw hyn bellach.
- Cyfeirlyfr GIG Cymru (gallwch ddod o hyd i ddeintyddion yn ôl ardal a map rhyngweithiol)
- Galw Iechyd Cymru – Chwilio am Ddeintydd
Optegwyr
Mae 3 math gwahanol o ymarferydd optegol:
- Optometryddion – a elwir hefyd yn optegwyr offthalmig, sef proffesiynolion wedi eu hyfforddi sy’n archwilio llygaid, yn rhoi cyngor ar broblemau gweledol, ac yn rhagnodi sbectol a lensys cyffwrdd. Gallant hefyd atgyfeirio achosion o glefyd y llygaid lle y bo’n briodol.
- Ymarferwyr Meddygol Offthalmig – meddygon yn arbenigo mewn gofal y llygaid. Maent yn archwilio llygaid, yn canfod annormaleddau ac yn rhagnodi lensys cywiro addas.
- Optegwyr Fferyllol – maent yn creu presgripsiynau gan optometryddion. Gallant ffitio a darparu sbectol, lensys cyffwrdd ac offer optegol eraill, ond nid ydynt yn archwilio’r llygaid.
- Cyfeirlyfr GIG Cymru
- Galw Iechyd Cymru – Chwilio am Optegydd
Fferyllfeydd
Mae llawer o fferyllfeydd bellach yn darparu ystod o wasanaethau y gellir cael mynediad iddynt trwy gydol yr wythnos, fel dulliau atal cenhedlu brys neu gyfleusterau cyfnewid nodwyddau.
Yn ogystal â’r rheiny a ddarperir gan fferyllfeydd y Stryd Fawr, mae gwasanaethau fferyllfa hefyd ar gael gan ystod o archfarchnadoedd, sydd yn aml yn gweithredu y tu allan i oriau agor arferol y Stryd Fawr.
Mae fferyllwyr yn broffesiynolion cymwys iawn sydd wedi cael hyfforddiant helaeth ac mae ganddynt ddealltwriaeth arbenigol o feddyginiaethau. Yn ogystal â gweinyddu meddyginiaeth sydd wedi ei ragnodi, maent yn gallu rhoi cyngor arbenigol am ddim am feddyginiaethau a phynciau perthnasol.

Iechyd, Lles a Chymorth
Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor am nifer fawr o gyflyrau yn ogystal â chynnig cyfleoedd i chi rannu eich profiadau a’ch arbenigedd gydag eraill. Mae llawer o’r gwasanaethau hyn yn canolbwyntio ar gyflwr penodol, er enghraifft Arthritis a Diabetes ac yn gallu rhoi gwybodaeth werthfawr am gyflyrau a thriniaethau a allai fod ar gael. Maent hefyd yn gallu cefnogi hunan-ofal ar gyfer unigolion a’r rheiny sy’n gofalu amdanynt. Mae gwasanaethau eraill yn rhoi cyngor a chymorth i ofalwyr a rhieny sydd yn chwilio am gymorth a seibiant.
Gwasanaethau Cymdeithasol - (nad ydynt gan y GIG)
Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn adrannau’r awdurdod lleol sydd yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n rhoi cymorth i bobl agored i niwed mewn angen, yn cynnwys y rheiny ag anableddau corfforol neu feddyliol, plant sydd angen gofal a’i hamddiffyn a phobl sydd yn dioddef o salwch cronig a’r rheiny sy’n gofalu amdanynt.
Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos gydag adrannau ac asiantaethau eraill yr awdurdod lleol, yn cynnwys gwasanaethau’r GIG a sefydliadau gwirfoddol, i gyflwyno cymorth a chefnogaeth ar ffurf gwasanaethau fel timau addysg, timau cyffuriau a salwch meddwl cymunedol, gwasanaethau amddiffyn plant a gwasanaethau ar gyfer yr henoed.

Iechyd Rhywiol
Mae Clinigau Beichiogrwydd Cynnar ar gael ar gyfer menywod beichiog sydd yn profi poen neu waedu yn ystod cyfnodau cynnar eu beichiogrwydd.
Mae clinigau cynllunio teulu yn cynnig cyngor a gwybodaeth gyfrinachol, am ddim ar faterion yn ymwneud ag iechyd rhywiol. Mae’r rhan fwyaf o glinigau’n cynnig gwasanaethau fel:
- Cwnsela erthyliad
- Profion taeniad ceg y groth
- Dulliau atal cenhedlu (yn cynnwys rhai brys)
- Profion Beichiogrwydd
- Cyngor am fasdoriad a Diffrwythloni mewn Menywod
- Cwnsela seico-rywiol
Mae clinigau ffrwythlondeb yn gallu rhoi cymorth i’r rheiny nad ydynt yn gallu cenhedlu’n naturiol. Mae sawl dull o genhedlu â chymorth y gellir ei ddefnyddio i helpu pobl yn y sefyllfa hon.
Meddygaeth Genhedlol-wrinol (GUM) yw’r adran feddygaeth sy’n cynnwys organau rhywiol menywod a’r system wrinol.
Mae meddygon teulu’n gallu atgyfeirio cleifion i Glinigau GUM am brofion Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol, er ei fod yn bosibl gwneud apwyntiau mewn rhai Clinigau GUM heb atgyfeiriad. Mae rhai clinigau’n cynnig gwasanaeth galw heibio ond mae angen gwneud apwyntiad mewn eraill.

Mae clinigau terfynu beichiogrwydd yn cynnig gwasanaethau cwnsela a therfynu beichiogrwydd i fenywod gan ddefnyddio dulliau gwahanol yn dibynnu ar hyd y beichiogrwydd.
Mae Clinigau Cynghori Ieuenctid yn benodol ar gyfer pobl ifanc. Mae rhai clinigau yn nodi cyfyngiad oedran ond bydd y rhan fwyaf yn fodlon gweld pobl hyd at 25 oed. Maent yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar nifer o destunau sy’n effeithio ar bobl ifanc fel:
- Alcohol
- Cyffuriau
- Dulliau Atal Cenhedlu
- Iechyd Rhywiol
- Profion beichiogrwydd.
- Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan
- Galw Iechyd Cymru – Chwilio Gwasanaethau Iechyd Rhywiol
Damweiniau ac Achosion Brys
Yn dibynnu ar gyflwr y claf, efallai mai’r ymateb y byddwch yn ei gael fydd Ambiwlans, Parafeddyg mewn Cerbyd Ymateb Cyflym, Ambiwlans Awyr, criw Ambiwlans gwasanaeth gofal cleifion, neu ymatebwr cyntaf cymunedol sydd yn byw yn y gymuned ac sydd wedi ei hyfforddi i ymdrin â sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol fel trawiadau ar y galon. Mae ein criwiau yn broffesiynolion medrus iawn sydd yn gallu trin a sefydlogi cleifion cyn mynd â hwy i’r ysbyty mwyaf priodol os oes angen. Mae’r ambiwlansau eu hunain yn rhai o’r radd flaenaf ac yn dal ystod eang o offer gofal brys yn cynnwys ocsigen, diffibrilwyr, offer achub bywyd uwch a chyffuriau brys yn cynnwys rhai i leddfu poen.
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn darparu gofal a thriniaeth frys cyn mynd i’r ysbyty ledled Cymru.
Mae staff ymroddedig a medrus yn gweithio 24 awr y dydd, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn i sicrhau bod cleifion yn cael o gofal gorau posibl.
Mae staff ymroddedig a medrus yn gweithio 24 awr y dydd, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn i sicrhau bod cleifion yn cael o gofal gorau posibl.
O 1 Ebrill 2007 trosglwyddodd Galw Iechyd Cymru i fod yn rhan annatod o Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae Galw Iechyd Cymru yn darparu gwasanaeth cyngor a gwybodaeth iechyd 24 awr y dydd, gan gyfeirio pobl Cymru i’r lefel fwyaf priodol o ofal iechyd ar gyfer eu hanghenion.
Ysbytai
Mae ysbytai ar draws Cymru yn darparu ystod o wasanaethau a bydd gan y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru fynediad i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth sy’n darparu gwasanaethau ar sail cleifion allanol, cleifion mewnol ac achosion dydd. Mae rhwydwaith o ysbytai cymunedol ar draws Cymru hefyd sydd lawer yn llai nag ysbytai cyffredinol dosbarth ac yn darparu ystod mwy cyfyngedig o wasanaethau. Darperir gwasanaethau arbenigol fel gwasanaethau llawdriniaeth y galon, llosgiadau a phlastig mewn nifer gyfyngedig o ysbytai.
Byrddau Iechyd Lleol
Mae Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) yn gweithio gyda’u hawdurdodau lleol perthnasol yn cynllunio strategaethau hirdymor ar gyfer ymdrin â materion iechyd a lles ar gyfer eu hardaloedd. Mae’r BILlau hefyd yn gweithio’n agos gyda’u poblogaeth leol, gan wahodd mewnbwn ac adborth am faterion yn ymwneud ag iechyd, ac yn ymgynghori ar unrhyw newidiadau arwyddocaol.
Mae BILlau yn derbyn cyfran sylweddol o gyllideb y GIG ar gyfer Cymru, ac yn hyn o beth maent yn gysylltiedig â chynllunio a dyrannu gwasanaethau iechyd wedi eu teilwra ar gyfer eu poblogaethau lleol nhw, ac yna’n trafod gydag ymddiriedolaethau ysbytai, practisau meddygon teulu, deintyddion a sefydliadau eraill i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Ymddiriedolaethau GIG
Mae Ymddiriedolaethau GIG yn gyfrifol am gyflwyno gofal iechyd i boblogaeth yr ardal y maent yn darparu ar ei chyfer. Ceir 9 Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae’r gwasanaethau iechyd o ddydd i ddydd a ddarperir gan Ymddiriedolaethau’r GIG yn amrywio o Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Bydwreigiaeth, gofal arbenigol ar gyfer plant a phobl hŷn yn ogystal â thriniaeth arferol mewn ysbyty. Yn ogystal, mae gan ddwy ymddiriedolaeth GIG gylch gorchwyl cenedlaethol – Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer gwasanaethau brys ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre sy’n cynnig gwasanaethau arbenigol ym maes gofal canser ac ystod o wasanaethau cymorth cenedlaethol.